David Garrick ac Eglwys Llanglydwen
![Llanglydwen Window [detail]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Llanglydwen_Window.width-500.jpg)
Fe ddywedir taw plwyf Llanglydwen yw’r mwyaf gorllewinol yn Sir Gaerfyrddin ac fel llawer o’n heglwysi plwyfol, fe welir cofebau ar y muriau sy’n coffau y teuluoedd bonedd lleol, yn yr achos yma, y Protheroes o blasdy Dolwilym. Ond un nodwedd diddorol am y gofeb yma yw yr enw Garrick – felly a oes yna gysylltiad rhwng yr enw Garrick a’r actor talentog o’r ddeunawfed ganrif ac a roddodd ei enw i’r theatr enwog yn Llundain, a Llanglydwen?
Beth a ddywed y ffeithiau? Wel, pan fu farw Evan Protheroe yn 1795 a’i wraig Elizabeth yn 1813, fe aeth yr ystad i frawd Elizabeth, sef Dr. Evan Jones, ar yr amod fod y meddyg yn newid ei gyfenw i Protheroe. Fe briododd Dr Evan Protheroe (gynt Jones) gyda Emma Garrick a’r gred ymhlith llawer o bobl yw taw Emma oedd gweddw David Garrick, yr actor. Yn anffodus, nid yw hyn yn wir, ond mae na gysylltiad!
Roedd Emma yn ferch i Percival Hart ac fe briododd ei gŵr cyntaf David Garrick, ond nid David Garrick yr actor, ond ei nai o’r un enw a oedd yn gapten yn y fyddin. Ganwyd un ferch a oroesodd i Evan a Emma Protheroe (nee Hart), sef Emma Hart Protheroe, ac fe briododd hi y Capten William Garrick Brydges Schaw – gorfodwyd ef i newid ei gyfenw i Protheroe hefyd! Felly, pwy oedd y Capten William Schaw a sut roedd Garrick yn ei enw ef? Wel, ei fam oedd Arabella Garrick, chwaer yr actor ac felly roedd William, hefyd yn nai i’r actor. Diddorol nodi, pan briododd Emma Hart Protheroe gyda William Garrick Brydges Schaw roedd yn priodi cefnder gŵr cyntaf ei mam!
Felly, er nad oedd Evan Protheroe (gynt Jones) wedi priodi gweddw yr actor enwog, fel roedd rhai yn tybio, roedd gan yr eglwys fach brydferth hon, ar lethrau yr Afon Taf, ddau gysylltiad agos gyda un o actorion mwyaf y ddeunawfed ganrif.
Parch. Richard Davies