Rhoi Crist y tu ôl i fariau

Disgrifia Gwion Lockley ei brofiad yn dysgu’r Cwrs Alpa mewn carchar merched
Profiad od a dweud y lleiaf oedd fy sesiwn gyntaf yn rhan o dîm oedd yn rhedeg cwrs Alffa yng Ngharchar Gwragedd Styal, ar gyrion deheuol Manceinion. Sôn am fod allan o’m dyfnder! Bod mewn ystafell llawn gwragedd o bob lliw a llun, o bob oedran a chenedl, a theimlo y gallai canran uchel ohonyn nhw fy nghuro i mewn ffeit!
Roedd ffrindiau i mi oedd yn rhan o The Message Trust ym Manceinion wedi cael perswâd arna’ i i ymuno gyda thîm Reflex (Gweinidogaeth sy’n gweithio mewn carchardai ledled y Deyrnas Gyfunol oedd yn gysylltiedig â The Message Trust) i wirfoddoli drwy helpu rhedeg cyrsiau Alffa gyda Chaplaniaeth y carchar, oedd ar fy stepen drws bryd hynny - rhwng 2007 a 2010. Gan fy mod yn angerddol am rannu’r Efengyl gydag olaf a lleiaf cymdeithas (‘the last and the least’), penderfynais y byse hyn yn ffordd da o fynegi’r dyhead yn bersonol.
Roedd tim Reflex yn gweithio yn y carchar yn ddyddiol gyda’r merched, yn rhedeg cyrsiau addysgol, sgiliau bywyd, ymwybyddiaeth dioddefwyr a chyfamodi (victim awareness & reconciliation) a.y.b, yn ogystal â’r cwrs Alffa unwaith yr wythnos.
Profiad hynod o ddarostyngedig oedd cael treulio amser gyda’r gwragedd ‘ma yn rheolaidd; clywed eu storïau torcalonnus, profi eu problemau a theimlo ychydig o’u poen. Roedd yn atgof parhaus fod bywyd y rhan fwyaf ohonom ni, er mor heriol weithiau, yn lot haws nag i rai! Roedd hefyd yn anrhydedd mawr cael rhannu Newyddion Da yr Efengyl gyda nhw, drwy ddefnyddio fformat hawdd y Cwrs Alffa, a gweld nifer yn dewis dilyn Iesu dros ei hunain, yn llyncu’r Beibl, ac yn tyfu yn eu ffydd newydd. Roedd gweld y newid dros amser yn eu dewisiadau, yn eu hagwedd tuag at fywyd ac eraill, ac hyd yn oed yn eu pryd a’u gwedd corfforol wrth gael profiad o’r Ysbryd Glân a’i bŵer yn ei bywydau yn wefr na fydda i fyth yn gallu anghofio!
Falle’r syndod mwyaf i fi ar y pryd oedd pa mor agored yr oedden nhw i gyd i glywed am berson yr Iesu, p’un a’u bod nhw’n dewis ei ddilyn yn bersonol neu peidio, er eu bod nhw efallai yn wyliadwrus neu’n amheus o grefydd – boed nhw’n dod o gefndir Mwslemaidd, Iddewig, Cristnogol ‘nominal’, crefydd arall neu yn anffyddwyr rhonc!
Mae rhywbeth hynod o ddeniadol am berson yr Iesu – ein braint ni fel ei ddilynwyr yw i bwyntio pobl eraill tuag ato!