Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl ac addysgu cenedlaethau'r dyfodol

Diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl ac addysgu cenedlaethau'r dyfodol

Dogs4Wildlife Dan

Yn y frwydr yn erbyn herwhela a difodiant bywyd gwyllt, mae un mudiad yn Ne Cymru yn cael effaith ryfeddol. Dyma Darren Priddle i esbonio mwy.

Elusen yw Dogs 4 Wildlife, sydd wedi'i lleoli yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin a’u prif nod yw hyfforddi cŵn gwarchod hynod fedrus a darparu hyfforddiant ar gyfer ceidwaid arbenigol i frwydro yn erbyn herwhela yn Ne Affrica.

Er mwyn gwarchod bywyd gwyllt sydd mewn perygl, mae Dogs 4 Wildlife eisoes wedi anfon 15 o gŵn gweithredol i bedair gwlad yn ne Affrica, ac mae hyn wedi helpu i leihau herwhela gan 75%.

Mae eu hymdrechion nid yn unig yn gwarchod bywyd gwyllt ond hefyd yn ysbrydoli ac yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol am bwysigrwydd cadwraeth. Nid achub un rhywogaeth yn unig yw diben cadwraeth, yn hytrach mae angen deall y rôl sydd gan bob rhywogaeth yn yr ecosystem.

Pontio'r Bwlch

Mae cadwraeth ac addysg yn mynd law yn llaw, ac eto dydy llawer o blant De Affrica sy'n byw gerllaw’r gwarchodfeydd erioed wedi cael y cyfle i weld yr anifeiliaid mae disgwyl iddyn nhw helpu i'w gwarchod. Mae llai na 2% ohonyn nhw wedi ymweld â gwarchodfa fel Parc Cenedlaethol Kruger, lle cipiwyd 19 rheino ym mis Rhagfyr 2024 yn unig.

Dogs4Wildlife dog

Er mwyn newid y sefyllfa hon, mae Siyafunda Ngemvelo (Rydyn ni’n Dysgu ym myd Natur) ynghyd â’r elusen Connected Planet, wedi lansio rhaglen i gyflwyno plant o gymunedau gwledig i'r bywyd gwyllt anhygoel sydd o'u cwmpas, gan feithrin ynddyn nhw ymdeimlad o falchder, cyfrifoldeb a brys i amddiffyn eu treftadaeth naturiol.

Trin y gynddaredd a hyrwyddo lles anifeiliaid

Yn ogystal ag ymdrechion i drechu herwhela, mae Dogs 4 Wildlife hefyd wedi ymrwymo i wella lles cŵn ac anifeiliaid. Mewn partneriaeth â sefydliadau tebyg yn Zimbabwe, maen nhw’n codi ymwybyddiaeth o’r gynddaredd, sut i’w atal, a sut i osgoi brathiadau ac yn cynnal mwy o brosiectau ledled De Affrica yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae’r gynddaredd yn un o'r clefydau mwyaf marwol ar y ddaear gyda chyfradd marwolaeth o 99.9% yn parhau i daro bodau dynol ac anifeiliaid fel ei gilydd. Mae'r firws yn cael ei drosglwyddo trwy boer mamaliaid heintiedig ac mae 90% o'r rhai sy’n ei ddal yn byw yn y rhanbarthau lle mae cynddaredd cŵn yn gyffredin.

Er mwyn datrys yr argyfwng hwn, mae Dogs 4 Wildlife yn darparu tennyn a choler er mwyn cymell perchnogion cŵn i ddod â'u hanifeiliaid anwes i glinigau brechu. Mae'r taclau syml hyn yn helpu i wella lles anifeiliaid hefyd, am eu bod yn annog perchnogion i gael gwared ar yr hen goleri gwifren sy'n anghyffyrddus ac yn gallu anafu’r cŵn.

Mae Dogs 4 Wildlife yn parhau’n ddiwyro yn ei ymrwymiad i amddiffyn bywyd gwyllt, a hyrwyddo addysg a lles anifeiliaid. Drwy hyfforddi cŵn cadwraeth, addysgu cymunedau a mynd i'r afael â’r gynddaredd, maent yn creu dyfodol mwy diogel i rywogaethau sydd mewn perygl ac i'r bobl sy'n rhannu'r ardaloedd hyn gyda nhw.

Am fwy o wybodaeth neu i gefnogi eu cenhadaeth, ewch i www.dogs4wildlife.org.