We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Perl Porth Tywyn

Perl Porth Tywyn

Newid cyfeiriad wrth i Caroline Evans ymweld ag Eglwys y Santes Fair, Porth Tywyn

Yn y gyfres hon, rydyn ni fel arfer yn cyflwyno eglwysi gwledig bach sy'n aml yn cael eu hanwybyddu ond sy'n rhan allweddol o'n tirwedd hanesyddol, ac sydd wedi eu sefydlu yng nghysgod hanes a hyd yn oed weithiau wedi'u hadeiladu ar leoliadau cyn-Gristnogol arbennig. Yn y rhifyn hwn, fodd bynnag, rydyn ni’n troi ein golygon at eglwys drefol brysur. Mae’r adeilad yn un Fictoraidd, rhestredig Gradd II ac mae’n adlewyrchu’r newidiadau cymdeithasol a ddaeth yn sgil y Chwyldro Diwydiannol law yn llaw â dyheadau dinesig ac ewyllys da.

Dechreuwyd adeiladu'r Santes Fair yn 1875, yn seiliedig ar gynllun o 1860, ac fe'i hagorwyd ar 9 Rhagfyr 1877 gan Basil Jones, Esgob Tyddewi. Wedi'i adeiladu ar dir sy'n edrych dros yr arfordir i'r gogledd-ddwyrain o'r dref, mae'n dirnod amlwg ac mae'r tŵr i'w weld o benrhyn Gŵyr.

Amgylchynwyd safle'r fynwent fawr gan gaeau ar un adeg ond mae'r dref wedi tyfu o'i chwmpas. Y prif gymwynaswr oedd George Richards Elkington, cyd-sylfaenydd cwmni Pembrey Copperworks. Canfu nad oedd gan lawer o'i weithwyr Anglicanaidd Saesneg eu hiaith le o addoliad, felly penderfynodd adeiladu'r eglwys fel rhodd i'r dref.

Rhoddodd tri thirfeddiannwr o deuluoedd amlwg dir ym man cyfarfod y tri pharsel o dir. Wnaeth George ddim byw i weld yr eglwys yn cael ei hadeiladu ond gadawodd gymynrodd hael ar gyfer ei chynnal a’i chadw ac ymddiriedodd y dasg o oruchwylio’r gwaith adeiladu i’w bum mab. Yn ôl y stori, mae pum cloch y tŵr yn cynrychioli'r meibion hynny.

Mae'r eglwys wedi'i hadeiladu o garreg tywodfaen leol gyda cherrig nadd gyda chorff pedwar bae a changell is, porth deheuol a thŵr de-ddwyreiniol gyda meindwr. Mae gan yr eglwys ffenestri eil dwy ffenestr, ffenestri claeruchdwr tair ffenestr rhwng bwtresi uchder llawn bas, a ffenestr tair ffenestr uwch gyda phennau nadd, gyda dyluniadau Art Nouveau gogoneddus.

Dyluniwyd gwrthgefn yr allor gan Mowbray i nodi hanner canmlwyddiant yr eglwys yn 1927. Gall rhai eglwysi Fictoraidd fod braidd yn oeraidd ond mae naws hynaws a chroesawgar yma. Os ydych chi yn yr ardal, yn ymweld â Phentywyn, neu’n cerdded Llwybr yr Arfordir, mae'r eglwys hon yn werth ei gweld.

Mae’n eglwys brysur gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gwasanaethau, ond mae'n rhaid ei chloi pan nad yw'n cael ei defnyddio. Bellach mae ganddi gegin, ardal gaffi, mynediad i bobl anabl, a maes parcio mawr.

Mae tudalen Facebook yr eglwys yn rhestru’r digwyddiadau ac os byddwch chi am ymweld â hi ar adeg arall, cysylltwch â'r Offeiriad â Chyfrifoldeb, y Parch Lorna Bradley ar 07765497930 neu lornabradley@cinw.org.uk. Tudalen

Facebook: Parish of Burry Port with Pwll,

Cyfeiriad yr Eglwys: Eglwys y Santes Fair, Porth Tywyn SA16 0SL