Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Grant newydd yn helpu i ariannu gofal caredig

Grant newydd yn helpu i ariannu gofal caredig

Compassionate Cymru Pic

Mae Cymru Garedig wedi lansio cronfa grantiau bach newydd i gefnogi cymunedau caredig a thosturiol yng Nghymru. Heather Ferguson, Pennaeth Polisi a Phrosiectau Age Cymru, sydd â'r manylion.

Mudiad sy'n annog Cymru i fod yn genedl ystyriol a gofalgar yw Cymru Garedig. Mae’n annog pobl i ddod at ei gilydd i gefnogi’r rhai sy'n byw gyda salwch fel canser, ac sy’n delio â marwolaeth, marw a phrofedigaeth. Trwy ddatblygu cymunedau caredig a thosturiol, gallwn fod yno pan fydd angen hynny fwyaf ar bobl.

Rydyn ni’n gwybod y gall y dull hwn wneud gwahaniaeth enfawr, ond gall mentrau lleol ei chael hi'n anodd dechrau arni felly mae Cymru Garedig wedi lansio'r gronfa newydd ac yn gwahodd ceisiadau gan gymunedau lleol am grantiau o hyd at £500.

Gallai’r mathau o weithgareddau gynnwys annog datblygiad cymunedau mwy caredig a thosturiol ynghylch byw gyda salwch, marwolaeth, marw, profedigaeth, boed hynny mewn gweithle, cartref gofal neu yn y gymuned leol. Gallai enghreifftiau gynnwys; gweithle bach sydd am ddechrau grŵp i gefnogi'r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser, neu am gynnal sesiwn cynllunio bywyd yn y blynyddoedd hwyrach i'w staff, neu brosiect celf gyda phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal sydd am drafod diwedd oes, neu fore coffi neu de i roi cychwyn ar Gaffi Marwolaeth ac ati. Bydd y syniadau'n cael eu harwain gan anghenion y cymunedau lleol sy'n gwneud cais.

Mae'r rhaglen grant, a ariennir gan Macmillan Cancer Care, ac a weinyddir gan Age Cymru, yn eithaf hyblyg a gellir ei defnyddio i ariannu digwyddiadau untro, neu raglen o weithgareddau, ar-lein neu all-lein.

Does dim angen i ymgeiswyr fod yn elusennau cofrestredig, ond bydd angen iddyn nhw fod â strwythurau ffurfiol ar waith a chyfrif banc. Gellir ystyried ceisiadau ar y cyd rhwng grwpiau hefyd.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw: Dydd Llun 7 Ebrill 2025

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cymru Garedig: https://compassionate.cymru/cy/ , drwy e-bostio contact@compassionate.cymru neu ffonio 029 2043 1555

Ein defnydd o gwcis

Rydyn ni’n defnyddio cwis angenrheidiol i wneud i'n safle weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dadansoddi sy'n ein helpu i wneud gwelliannau drwy fesur sut rydych chi'n defnyddio'r safle. Bydd y rhain yn cael eu gosod dim ond os ydych chi'n eu derbyn. I gael gwybodaeth fanylach am y cwcis rydyn ni'n eu defnyddio, edrychwch ar ein tudalen Cwcis.

I gael gwybodaeth fanylach am y cwcis rydyn ni'n eu defnyddio, edrychwch ar ein tudalen Cwcis

Cwcis angenrheidiol

Ymlaen
I ffwrdd

Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi swyddogaethau craidd fel diogelwch, rheoli rhwydwaith, a hygyrchedd. Gallwch analluogi'r rhain trwy newid gosodiadau eich porwr, ond gall hyn effeithio ar sut mae'r wefan yn gweithredu.

Cwcis dadansoddi

Ymlaen
I ffwrdd

Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi’n ei defnyddio. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un yn uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, ewch i’n 'Tudalen Cwcis'.

Eich dewisiadau preifatrwydd ar gyfer y wefan hon

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis a thechnolegau storio gwe eraill i wella'ch profiad y tu hwnt i'r swyddogaethau craidd angenrheidiol.