Llawer i’w ddathlu
Mae 2025 yn flwyddyn o ddathlu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, fel yr eglura Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol,
Yn ystod y 1500 o flynyddoedd yn hanes ein Heglwys Gadeiriol, mae yna achlysuron pwysig i’w nodi o yn gyson. Ond eleni, yn 2025 gwelwn fod nifer helaeth ohonyn nhw, ac mae un yn achlysur “cyntaf” arbennig.
![Apel Heddwch Peace Appeal 1925 cover [CathLib]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Apel_Heddwch_Peace_Appeal_1925_cover.width-500.jpg)
Yn 1925, cafwyd cyfres o apeliadau am heddwch ar draws Cymru, gan gynnwys Apêl Heddwch gan “arweinwyr cyrff crefyddol yng Nghymru i Gyngor Ffederal Eglwysi Crist yn America.” Y cyntaf yn y rhestr o 22 o lofnodion oedd Esgob Tyddewi, y Gwir Barchedig John Owen. Esgob Owen oedd Llywydd Cyngor Cenedlaethol Cymru o Gynghrair y Cenhedloedd. Bydd y llythyr gwreiddiol, a luniwyd yn gain gan Gregynog, yn cael ei arddangos yn yr Eglwys Gadeiriol yn ystod mis Mehefin 2025.

100 mlynedd yn ôl yn 1925, yn sgil un o fentrau heddwch eciwmenaidd eraill yr Esgob John Owen, daeth grŵp o Batriarchiaid Uniongred ar ymweliad hanesyddol ag Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Roedd hyn yn rhannol i ddathlu cyfarfod Cyngor Nicea yn 325. Nodwn ddathliad yr Esgob Owen o gredo Nicea a gynhaliwyd ganrif yn ôl drwy goffáu 1700 o flynyddoedd ers y cyfarfod pwysig hwnnw, pan gynhyrchwyd credo Nicea yn wreiddiol – credo sy’n cael ei ddefnyddio mewn gwasanaethau hyd heddiw. Bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn yr Eglwys Gadeiriol ddiwedd mis Medi gydag arddangosfa o ffotograffau o ymweliad 1925.
Byddwn hefyd yn nodi 150 mlynedd ers marwolaeth yr Esgob Connop Thirlwall yn 1875. Roedd yn awdur ar wyth cyfrol o Hanes Gwlad Groeg (ar gael yn Llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol), ac ef hefyd fu’n goruchwylio’r gwaith sylweddol o ailgodi’r Eglwys Gadeiriol yn dilyn ei dirywiad adeg y Diwygiad a’r “Gwrthryfel Mawr”. Bydd sesiwn ar fywyd a gwaith Connop Thirlwall yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd ym mis Hydref.
Am y tro “cyntaf” erioed eleni, byddwn yn cynnal cynhadledd Cymdeithas Archifau, Llyfrgelloedd a Chasgliadau Cysylltiedig y Cadeirlannau (CALCA). Mae’r gymdeithas yn cynnwys eglwysi cadeiriol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Byddwn yn croesawu cyfranogwyr o bob cadeirlan i Dyddewi! Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 17 Mehefin tan ddydd Iau 19 Mehefin. Mae croeso i bobl o’r esgobaeth nad ydyn nhw’n aelodau o CALCA i ymuno â ni ar gyfer sesiynau ar Feiblau cynnar Cymraeg; Beibl cynnar Gwyddeleg; Gerallt Gymro; baglau esgob canoloesol a diweddarach a llawer mwy. Anfonwch neges e-bost at CALCAconference@StDavidsCathedral.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.