Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Cig synthetig i’ch Ci?

Cig synthetig i’ch Ci?

Dyma Marcus Zipperlen, ein Swyddog Gofal am y Greadigaeth, yn cynnig rhai awgrymiadau ar leihau ôl-troed amgylcheddol eich anifeiliaid anwes

Neymar [creation care]

Mae cyfran y perchnogion anifeiliaid anwes ar gynnydd o hyd (51% ar hyn o bryd), a’r cyfanswm yn uwch yn awr nag yn ystod y pandemig. Yn Ynysoedd Prydain, mae tua 10.6 miliwn o gŵn a nifer debyg o gathod, heb sôn am gwningod, ceffylau a chreaduriaid mwy egsotig eraill. Mae anifeiliaid anwes yn bwysig i ni ar lawer ystyr ond mae yna hefyd gostau i’w talu, y rhai amlycaf yw’r gost i’ch poced ond mae yna hefyd gost amgylcheddol. A ddylem ni fod yn meddwl am hyn?

Yn ôl rhai astudiaethau, mae bod yn berchen ar gi yn achosi llygredd tebyg i sawl taith awyr hir i’r haul bob blwyddyn! Ond os edrychwn ni’n fanwl, fe welwn fod hyn yn gorliwio’r sefyllfa am fod yr honnwr yn tybio bod cŵn a chathod yn bwyta’r un math o gig â bodau dynol, sy’n gamarweiniol iawn. Mae'r rhan fwyaf o fwyd anifeiliaid anwes yn deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid, fel offal a darnau eraill nad yw pobl eisiau eu bwyta. Mae hyn, felly, yn achosi llai o allyriadau carbon na defnyddio anifeiliaid cwbl newydd. Er hynny, mae deiet cŵn a chathod yn achosi ôl-troed amgylcheddol amlwg sef rhwng 1 a 3% o allyriadau carbon ein gwlad. Felly, dylem fynd ati i feddwl sut y gallem leihau hyn.

Fe allem ni ddewis brid o gi sy’n llai o faint am ei fod yn bwyta llawer llai na chi mawr. Neu, gallech chi hefyd fod yn radical iawn a dewis bochdew neu bysgodyn, ond mae’n amlwg nad yw’r anifeiliaid hynny mor annwyl i’w mwytho!

Efallai mai'r dull symlaf yw meddwl am y math o fwyd y mae eich anifail anwes yn ei fwyta. Gallech ddewis bwyd sy'n cynnwys cig wedi ei dyfu mewn labordy yn hytrach na chig o anifeiliaid sy'n cael eu ffermio. Yr wythnos diwethaf, rhoddwyd trwydded i’r cynnyrch anifeiliaid anwes cyntaf yn y DU sy’n defnyddio cig wedi ei dyfu mewn labordy. Chick-bites yw ei enw, ac mae mathau eraill ar y gweill.

Mae’r disgrifiad ‘wedi ei dyfu mewn labordy’ braidd yn gamarweiniol mewn gwirionedd gan fod y 'cig' yn cael ei feithrin mewn twbâu dur gwrthstaen mawr fel y rhai a ddefnyddir i fragu cwrw. Mae'r cynhyrchion hyn yn debygol o ymddangos ar ein bwydlen cyn hir – maen nhw eisoes wedi'u trwyddedu i'w bwyta gan bobl yn yr Unol Daleithiau, Singapore ac Israel.

Ond, rhaid aros i weld a fydd y dechnoleg newydd hon yn achosi llai o lygredd na ffermio traddodiadol. Mae'n dibynnu pa ynni a ddefnyddir i gynhesu'r twbâu neu ydy anifeiliaid yn cael eu magu trwy gyfrwng dulliau pori sy'n atafaelu carbon, ac mae hynny’n sicr yn wir yn achos rhai.

Felly, am y tro, y ffordd sicraf o leihau ôl-troed eich anifail anwes yw defnyddio bwyd anifeiliaid anwes sych yn hytrach na gwlyb (bwyd o dun neu o becyn) gan fod ôl-troed carbon bwyd sych yn cyfateb i 1/18 bwydydd gwlyb, ac mae’n rhatach hefyd!