Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Adfywiol, heriol, gwerth chweil

Adfywiol, heriol, gwerth chweil

Yr Esgob Dorrien yn myfyrio ar ei flwyddyn gyntaf o weinidogaeth esgobol

Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch a phob amser ym mhob un o'm gweddïau dros bob un ohonoch, yr wyf yn gweddïo gyda llawenydd. Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr, ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn dydd Crist Iesu. Felly y mae'n iawn i mi deimlo fel hyn amdanoch i gyd, am fy mod mor hoff ohonoch.

(Philipiaid 1, 3-7)

Mae fy mlwyddyn gyntaf fel esgob wedi bod yn adfywiol, yn heriol ac yn werth chweil. Mae fy ymweliadau ag eglwysi, Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol, sefydliadau ac ysgolion wedi fy annog a rhoi gobaith mawr i mi ar gyfer dyfodol ein hesgobaeth. Mae ffydd pobl a'u hymrwymiad i fyw bywyd Crist yn rhywbeth sy'n rhoi llawenydd mawr i mi wrth i ni symud ymlaen gyda'n gilydd fel teulu o gredinwyr.

Fy ngobaith diffuant, wrth i mi ddechrau ar ail flwyddyn y Weinidogaeth fel Esgob yw y byddwn yn cydweithio i wireddu pwysigrwydd y tasgau sydd ger ein bron.

Rwy'n gwerthfawrogi y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd a hyd yn oed dderbyn newid. Fodd bynnag, credaf y byddwn, trwy nerth yr Iesu byw, yn cyflawni llawer i ogoneddu ei enw a gwneud ei bresenoldeb yn hysbys ledled esgobaeth Tyddewi.

Hoffwn ddiolch i bawb am y gefnogaeth a gefais mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, ond yn anad dim am eich gweddïau, drosof fi a’m teulu wrth i ni addasu i fywyd yn Llys Esgob. Mae Iesu wedi ein galw ni i gyd i fywyd o wasanaeth mewn cariad at ein gilydd; gadewch inni wneud popeth gyda'n gilydd yn ysbryd y cariad hwnnw nad oes iddo unrhyw ffiniau.

Rwy'n ymwybodol bod yr Eglwys yn fregus; mae'n drysor gwerthfawr. Hyd yn oed yng nghymdeithas seciwlar ein dydd, mae gan yr Eglwys ei pherthnasedd a chyfraniad i'w wneud oherwydd ei bod yn perthyn i Dduw. Cofiwn am eiriau'r Fam Iwlian o Norwich:

Ac yn hyn dangosodd imi rywbeth bach, dim mwy na chneuen, ar gledr fy llaw, a oedd yn ymddangos i mi mor grwn â phêl. Edrychais arno gan feddwl: Beth all hyn fod? Roeddwn i'n synnu y gallai aros yno, oherwydd tybiais y byddai wedi syrthio a diflannu am ei fod mor fychan. A chefais fy ateb yn fy nealltwriaeth: mae’n aros a bydd yn wastadol, oherwydd bod Duw yn ei garu; ac felly mae yna fodolaeth i bopeth trwy gariad Duw. "