Ydy fideo wir wedi lladd y seren radio?

Neu sut rydyn ni wedi dewis DAB dros Tik-Tok!
Bob bore Sul mae’r Parchedig Sophie Whitmarsh a'r Parchedig Neil Hook yn darlledu i ymhell dros ddwy fil o bobl o Stiwdio Dau, Radio Pure West yn Hwlffordd. Mae gwrandawyr ar-lein ledled y byd ac ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn gwrando yn eu ceir, yn eu ceginau, ar eu dyfeisiau clyfar, trwy apiau ar eu ffôn a hyd yn oed ar setiau radio cyffredin!
Dair blynedd yn ôl, fe ddechreuon ni'r daith i ddod yn 'droellwyr disgiau', wrth i’n gorsaf radio annibynnol leol (ar-lein yn unig), sef Radio Pure West, chwilio am ddau gyflwynydd allai ymgymryd ag awr o ddarlledu crefyddol ar fore Sul rhwng 8 a 9 am.
Cawsom wahoddiad i gyfweliad ac i ddarlledu sioe brawf. Ac mae pethau wedi mynd o nerth i nerth ers hynny! Cawsom ein gwahodd i wneud slot rheolaidd, bob dydd Mawrth a dydd Iau ar y Sioe Frecwast, ac i gymryd rhan yn rheolaidd mewn darllediadau allanol.
Wrth i ni gynnal gweinidogaeth Gristnogol ar y radio, rhaid inni fod yn ofalus iawn gyda’n neges, yn enwedig a ninnau’n darlledu ar orsaf radio fasnachol leol. Mae gennym gyfrifoldeb o ran y gwrandawyr, o ran ein cyd-gyflwynwyr ac o ran aelodau eraill o deulu Radio Pure West a’r hysbysebwyr hefyd. Dim ond yn ddiweddar y cafodd Radio Pure West drwydded DAB ac mae bellach yn darlledu ar bum trosglwyddydd ledled Cymru. Felly mae gennym gyfrifoldeb hefyd i gydymffurfio â rheolau a rheoliadau clir cylch gwaith OFCOM.
Er mai ein nod yn ddi-os yw darparu mynediad at ddysgeidiaeth Gristnogol trwy gerddoriaeth a thrwy sgwrsio â chynulleidfa ehangach, rydyn ni’n ceisio osgoi bod yn ddidactig gan geisio dangos sut beth yw byw bywyd Cristnogol yn ei holl gymhlethdod. Mae hyn yn cynnwys cadw cydbwysedd rhwng hiwmor a difrifoldeb, efengylu a phroselytiaeth, peidio â chymryd yn ganiataol unrhyw lythrennedd Cristnogol sylfaenol a pheidio â bod yn nawddoglyd i’n gwrandawyr sy'n rhan o gymuned grefyddol.
Mae'n fraint o’r mwyaf gallu cyrraedd cynulleidfa fawr ar draws ardal ddaearyddol eang, yn enwedig pobl na fyddent efallai'n mynychu gwasanaethau'r eglwys yn rheolaidd – efallai am nad yw hynny’n rhan o’u harfer, neu am eu bod wedi rhoi’r gorau i fynd neu oherwydd eu hamgylchiadau personol eu hunain. Fe allen nhw hyd yn oed fod yn gaeth i’r tŷ neu’n methu â chyrraedd cymuned ffydd leol.