Ymestyn grantiau'r llywodraeth ar gyfer atgyweirio eglwysi
Mae'r Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig (LPWG) wedi'i ymestyn ond dim ond am flwyddyn
Mae'r gronfa grantiau hefyd wedi'i chapio ar £23 miliwn, o'i gymharu â'r £42 miliwn sydd wedi bod ar gael ers 2012.
Dywedodd y Gweinidog Diwydiannau Creadigol, y Celfyddydau a Thwristiaeth, Syr Chris Bryant, wrth ASau fod yna sefyllfa ariannol "anodd iawn" yn ei adran, gyda "llawer o ofynion cystadleuol".
Wedi'i lansio yn 2001, mae'r cynllun yn darparu grantiau sy’n cwmpasu’r TAW ar atgyweiriadau sy'n costio mwy na £1000 i adeiladau rhestredig a ddefnyddir fel mannau addoli, hyd at uchafswm o £25,000. Roedd bwriad i’r grant ddod i ben ddiwedd mis Mawrth.
Adroddodd yr Adran fod bron i 5000 o eglwysi wedi derbyn grant y llynedd. Roedd 94% o'r hawliadau o dan £25,000, ac roedd dros 70% o dan £5,000.
Bellach gellir gwneud ceisiadau ar-lein trwy wefan DCMS yn https://listed-places-of-worship-grant.dcms.gov.uk/