Gofwy yr Esgob
Cynhelir Gofwy yr Esgob yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, y cyntaf ers dros ddegawd.
Fel arfer mae eglwysi cadeiriol yn cael gofwy neu ymweliad bob pum mlynedd, ond 2010 oedd yr un diwethaf yn Nhyddewi.

Gelwir uwch glerigion a swyddogion sy'n gysylltiedig â'r eglwys gadeiriol i hysbysu'r Esgob am gynnydd, llwyddiannau ac unrhyw feysydd sy'n peri pryder, yn debyg iawn i'r fenter Tocio am Dyfiant sydd ar y gweill mewn mannau eraill o’r esgobaeth ar hyn o bryd.
Hefyd, gwahoddir unrhyw leygion sydd â chysylltiad perthnasol â'r eglwys gadeiriol (addolwyr, glanhawyr, staff siop, gofalwyr ac ati) i gynnig gwybodaeth os dymunant.
Mae'r gofwy yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau: addoliad, cerddoriaeth, adeiladwaith yr adeilad, cyllid ynghyd ag unrhyw faterion perthnasol eraill.
Dechreuodd y broses gyda gwasanaeth y Gofwy [yn y llun] a bydd yn para tan tua diwedd yr haf a bydd yr Esgob yn cyhoeddi adroddiad ddechrau'r hydref.