Suliau Cyntaf
Ffydd, bwyd, cyfeillgarwch…a thwf

Mark Clavier sy’n disgrifio prosiect newydd yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Twf yr Eglwys
Mae mwy i’r Eglwys na’r hyn sy’n digwydd rhwng yr orymdaith i mewn a’r emyn olaf. Mae rhywbeth llawer dyfnach ynglŷn â bod yn rhan o Gorff Crist, a ninnau wedi’n clymu gyda’n gilydd mewn ffydd, cariad, a chyfeillgarwch. Dyna sydd wrth wraidd Sul Cynta’r Mis: Ffydd, Bwyd a Chymdeithas yn Eglwys y Santes Fair, Aberhonddu, ymgynulliad sy'n trawsnewid teulu ein heglwys mewn ffyrdd annisgwyl.
I ddechrau, ein gobaith oedd creu gofod lle gallai pobl archwilio ffydd, rhannu pryd o fwyd, a thyfu mewn cyfeillgarwch. Ond fe brofon ni rywbeth llawer dyfnach: mwya’n byd y tyfwn yn ein dealltwriaeth o’n ffydd, mwya’n byd y cawn ein tynnu at ein gilydd hefyd fel pobl Dduw. Wrth i’n perthynas â Christ ddyfnhau, nid cyd-ddigwyddiad yw bod ein presenoldeb ar y Sul wedi tyfu o 15 i dros 60. Nid syniad haniaethol yw ffydd —caiff ei byw yn y gymuned, ac mae Suliau Cynta’r Mis wedi ein helpu i ailddarganfod hynny.

Wrth galon ein cyfarfodydd mae’r Gair a’r Sacrament: Byw Hanes Iachawdwriaeth Duw, sef cwricwlwm rwyf wedi ei gynllunio i'n gwreiddio yn achubiaeth Duw. Trwy ddod i ddeall yr Ysgrythur a'r sacramentau yn well, rydyn ni'n dysgu am Dduw, ac yn dysgu hefyd am y modd mae'n ein llunio a’n galw i fod yn bobl Dduw yn y byd. Mae hyn i gyd yn digwydd o gwmpas y byrddau, wrth i ni dorri bara gyda'n gilydd, yn union fel y gwnaeth Crist gyda'i ddisgyblion. Mae'r amseroedd hyn o fyfyrio a thrafod wedi caniatáu i bobl ofyn cwestiynau, rhannu eu dealltwriaeth, a chael eu hannog ar lwybr ffydd.
Mae rhywbeth am rannu pryd o fwyd sy'n newid pethau. Mae sgyrsiau'n llifo'n fwy rhydd, mae rhwystrau'n diflannu, ac yn sydyn gwelwn ein gilydd nid fel dieithriaid ond fel cyd-bererinion ar yr un daith. Yn yr eiliadau hyn, daw ffydd yn real—nid dim ond yn rhywbeth y byddwn yn ei broffesu ar fore Sul, ond yn rhywbeth i ni ei fyw, ei anadlu, a'i rannu. Mae pobl a oedd gynt bron yn ddieithriaid bellach yn hamddena a sgwrsio, a chyfeillgarwch newydd wedi datblygu ar draws y cenedlaethau, gan gryfhau ein hymdeimlad o berthyn.
Wrth i Sul Cynta’r Mis barhau i dyfu, cawn ein hatgoffa nad yw'r Eglwys wedi'i hadeiladu ar frics a morter, ond ar berthynas â’n gilydd—ar y cwlwm gaiff ei greu wrth i ni ddod at Grist gyda'n gilydd. Os ydych chi'n chwilio am ffordd o ddyfnhau ffydd eich cynulleidfa a'ch cyfeillgarwch, beth am roi cynnig ar hyn? Rwy’n barod iawn i drafod gyda chi sut y gallai hyn weithio yn eich eglwys chi.
Am fwy o fanylion, ewch i: www.stmarysbrecon.org.uk/first-sundays