Dod o hyd i lwybrau newydd
Mae Plant Dewi yn chwilio am ffynonellau cyllid newydd i gynnal ei brosiectau niferus.
Sefydlwyd Plant Dewi bron i 22 mlynedd yn ôl ac mae'r gefnogaeth a gawsom dros y blynyddoedd gan yr esgobaeth wedi bod yn rhagorol.

Heb eich cymorth chi i gyd, ni fyddem yn gallu cefnogi'r cannoedd o deuluoedd sy'n defnyddio ein prosiectau o wythnos i wythnos.
Wrth i gostau gynyddu a’r arian grant sydd ar gael i elusennau grebachu, mae angen i ni nawr chwilio am ffyrdd eraill o godi arian er mwyn i brosiectau Plant Dewi allu parhau i ddarparu ar gyfer teuluoedd mewn angen.
Ar 24 Mai, bydd y Cenhadwr Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd ac ymddiriedolwraig Plant Dewi, y Parchedig Sophie Whitmarsh, ynghyd â Catrin Eldred, Rheolwr Plant Dewi, a chefnogwyr brwd eraill yn cynnal taith gerdded noddedig 26 milltir i godi arian ar gyfer Plant Dewi.
Yn ôl y teuluoedd sy'n defnyddio prosiectau Plant Dewi, mae’r ddarpariaeth yn achubiaeth a byddai byw heb yr help hwn yn anodd iawn. Er mwyn sicrhau cefnogaeth i’r teuluoedd hyn, gallwch helpu Plant Dewi trwy gyfrannu at y daith gerdded i godi arian.
Taith Gerdded Noddedig Plant Dewi Sponsored Walk 2025 | Localgiving
Mae llawer o ffyrdd eraill y gallwch gefnogi Plant Dewi.
Oeddech chi'n gwybod bod gennym ni Glwb-100? Am gyfraniad o ddim ond £24 y flwyddyn, bydd gennych siawns o ennill gwobrau ariannol misol, gyda'r elw yn mynd yn syth i brosiectau Plant Dewi.
Neu, gallech gael blwch casglu melyn yn eich cartref neu'ch eglwys, blwch lle gall eich arian mân wneud gwahaniaeth i deuluoedd sy'n byw yn yr esgobaeth.
Efallai yr hoffech roi bob mis, drwy sefydlu archeb sefydlog – gall Plant Dewi hawlio cymorth rhodd hefyd ar gyfraniadau cymwys.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan – www.plantdewi.org.uk.
Rydyn ni’n ffodus i gael criw gwych o wirfoddolwyr yn ardal Caerfyrddin sydd wedi codi arian drwy gynnal bore coffi blynyddol ar gyfer Plant Dewi. Mae Bore Coffi Crempog y Grŵp Cymorth, a gynhelir ym mis Chwefror bob blwyddyn, wedi codi miloedd o bunnoedd. Efallai yr hoffech drefnu bore coffi lle gall Plant Dewi ddod draw i siarad am eu gwaith.
Ym mis Tachwedd y llynedd, aeth rhai o'n prosiectau yn Cross Hands, Castellnewydd Emlyn a Doc Penfro ati i gynnal digwyddiadau codi arian - gyda'i gilydd codwyd bron i £500. Bydd hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r hyn y gallwn ei ddarparu i deuluoedd sy'n mynychu ein grwpiau. Diolch i bawb a gyfrannodd.
Diolch yn fawr iawn i'r Esgob Dorrien am gynnal digwyddiadau Nadolig y llynedd er budd Plant Dewi, ac i'r holl eglwysi ac unigolion sy'n prynu cardiau Nadolig, yn cyfrannu yn ystod Gwasanaethau Cristingl a Charolau, ac sy'n cyfrannu mor hael gydol y flwyddyn.