Pymtheg ac yn dal i gyfri
Mae'n bymtheg mlynedd ers Cyfrifiad Natur cyntaf yr Eglwys. Ac mae'n mynd o nerth i nerth.
![Nature Count 13 [bee]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Nature_Count_13_bee_Moment.width-500.jpg)
Mae’r cyfrifiad eleni yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 7 Mehefin, sef yr un wythnos ag Wythnos Caru Eich Mannau Claddu. Mae’r trefnwyr yn cynnwys yr Eglwys yng Nghymru, yr elusen Gofalu am Erw Duw (Caring for God's Acre (CfGA)) ac A Rocha UK, sy'n gweinyddu'r cynllun Eco-Eglwys.
Gwahoddir pobl i ddarganfod bywyd gwyllt yn eu mynwentydd lleol, cofnodi eu canfyddiadau a mynd ati i gyflwyno’u holl ganlyniadau. Mae’r cyfan wedyn yn cael ei goladu ar y porth Beautiful Burial Ground yn y National Biodiversity Network (NBN), sef cronfa ddata genedlaethol o fywyd gwyllt yn y DU. Os oes gennych chi ffôn clyfar, mae modd cofnodi data yn yr ap iNaturalist hefyd.
Gorau oll po fwyaf o wybodaeth a gesglir, am goed a blodau ac adar a chwilod. Does dim yn rhy fawr nac yn rhy fach.
Os hoffech ragor o wybodaeth, dyma ddolen i’ch helpu: https://www.caringforgodsacre.org.uk/about-recording/add-your-records/
Mae Liam Taylor, Rheolwr Data Gofalu am Erw Duw, am ddiolch i bawb am eu brwdfrydedd dros y 15 mlynedd diwethaf: "Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi'r amser mae cynifer wedi ei dreulio yn cofnodi bywyd gwyllt yn ystod yr wythnos. Bu’n wych cael cofnodion o rywogaethau sy'n cael trafferth goroesi yng nghefn gwlad ar hyn o bryd. Roedd draenogod, er enghraifft, ymhlith pump uchaf y mamaliaid a gofnodwyd, gyda chacwn ymhlith pump uchaf yr infertebratau a gofnodwyd."
Mae Hannah Carty, Cyfarwyddwr Gofalu am Erw Duw, yn gweld bod yr ymdrechion hyn yn arwain at gamau cadwraeth go iawn gan y sawl sy'n rheoli'r safleoedd arbennig hyn: "Mae darganfod y fath amrywiaeth o fywyd gwyllt mewn mynwentydd wedi ysbrydoli camau ystyrlon i reoli’r sefyllfa. Mae cymunedau wedi bod yn gosod blychau nythu ar gyfer gwenoliaid ac adar eraill, yn addasu eu hadegau torri’r borfa i ganiatáu i flodau gwyllt ffynnu, ac yn gadael bylchau cyfleus i ddraenogod allu dilyn llwybrau i durio am eu bwyd."