Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Enwogrwydd o'r diwedd!

Enwogrwydd o'r diwedd!

Theresa Haine sy’n parhau â’i hatgofion o’r amser a dreuliodd ym Madagascar yn y cyntaf o neges ddwy ran.

Aeth y cenhadon cyntaf o Gymru i Fadagasgar yn dilyn gwahoddiad gan frenin Imerina ar y pryd yng nghanol Madagascar. Cawsant groeso brwd ac fe wnaethon nhw waith anhygoel yn adeiladu eglwysi ac ysgolion a throsi’r Malagasy lafar yn ffurf ysgrifenedig. Mae’n ffurf sydd bron yn gwbl ffonetig ac mae’n gwneud dysgu darllen cymaint yn haws i blant Malagasy hyd heddiw.

Yn anffodus, bu farw'r brenin ddeng mlynedd ar ôl i'r cenhadon gyrraedd ac fe'i holynwyd gan ei wraig nad oedd eisiau unrhyw beth i’w wneud â'r grefydd newydd, gan arwain at gyfnod trasig o erlid y Cristnogion am 30 mlynedd.

Rasalama [Madagascar martyr]

Ym 1987 gwahoddwyd Crynwyr Prydain i anfon cynrychiolydd i ddathlu 150 mlynedd ers marwolaeth Rasalama, y merthyr Malagasy cyntaf. Roeddwn i'n mynd i fod ym Madagascar bryd hynny ar ymweliad monitro ar ran Money for Madagascar felly gofynnwyd i fi ymgymryd â’r gwaith o fod yn gynrychiolydd. Doedd gen i ddim syniad beth oedd o ’mlaen i!

Yn y symposiwm tri diwrnod a ragflaenodd y diwrnod mawr, cyflwynwyd yr ymwelwyr pwysig: fi ar ran y Crynwyr, Llywydd Eglwys Ddiwygiedig Unedig y DU, cynrychiolydd Eglwys Ddiwygiedig y Swistir, dau Fedyddiwr Rwsiaidd a dau offeiriad Uniongred Rwsiaidd, yn cynnwys Archesgob Kharkov.

Ddydd Gwener 14 Awst oedd y diwrnod MAWR. Am 4am ffrwydrodd y dref gyfan gyda chanu a gwelais gannoedd o bobl ifanc a oedd wedi bod yn cynnal gwylnos drwy’r nos yn yr eglwys lle carcharwyd Rasalama. Dysgais wedyn mai dyma’r "Via Dolorosa", y llwybr a ddilynodd Rasalama o'i charchar i'r man dienyddio yn uchel i fyny ar un o'r bryniau o amgylch y brifddinas.

Am 8.30am mi es i lawr i'r stadiwm fawr ac aros am fy nghydweithwyr tramor. Ar ôl tua awr cyrhaeddodd yr holl weinidogion Malagasy yn edrych yn fendigedig yn eu gwisgoedd gwyn ac ysgarlad. Roedd yn rhaid aros nes bod y rhan fwyaf o'r torfeydd wedi cymryd eu lle, yna pan oedd cynrychiolwyr pwysig Malagasy o’r eglwysi amrywiol wedi cyrraedd, mi wnaethon ni orymdeithio drwy osgordd er anrhydedd, a ffurfiwyd gan sgowtiaid a geidiaid, i'n lleoedd priodol ar y platfform.

Roedd y dorf yn anhygoel – amcangyfrifwyd bod tua 60,000 o bobl yno. Roedd yr haul yn gwenu ac aeth coedwig o ymbarelau/cysgodion lliwgar llachar i fyny – golygfa wefreiddiol. Roedd y dorf yn canu emynau ac anthemau tan 9.55am pan ddisgynnodd distawrwydd llwyr wrth i ni i gyd aros am yr Arlywydd.

Ac yna? Bydd popeth yn cael ei ddatgelu y tro nesaf.

I’w barhau