Dyddiadur Person wedi Ymddeol

Christopher Lewis-Jenkins yn gyrru…a dysgu
Yn ddiweddar, prynais gar trydan a chael gwefrydd cartref wedi'i osod, ar ôl meddwl ei bod hi’n hen bryd i mi wneud fy rhan dros y blaned.
Ar ôl rhai misoedd sylweddolais nad oedd yr honiadau gan y cwmni modur a'r gwerthwr ceir yn hollol gywir, a dweud y lleiaf. Hawliwyd bod modd gwneud 250 milltir – ond does dim modd gwneud yn agos at hynny. Hefyd, ni chafwyd esboniad erioed bod tywydd oer, y glaw a'r gwynt yn effeithio ar sut mae’r car yn gwefru ac yn rhedeg.
Rai wythnosau yn ôl aeth fy ngwraig a minnau i ofalu am ein hwyrion ym Mhorthcawl sydd 74 milltir o'n cartref. Aethom â'n hwyrion i'r ysgol, eu casglu nhw am ginio, mynd â nhw yn ôl i'r ysgol a'u casglu yn y prynhawn, 40 milltir arall yn y car
Felly, doedd gennym ddim digon o wefr yn y car i gyrraedd adref. Yn ffodus, gwelsom ar-lein fod yr orsaf wefru gyflym agosaf yn Sanclêr, gan ein gadael â dim ond 17 milltir yn y tanc, fel petai. Gwefrwyd y car ac mi gyrhaeddon ni adre yn ddiogel.
Y rheswm rwy'n dweud hyn wrthych, yw oherwydd ein bod ni wedi gorfod dysgu sut i yrru ein car newydd. Rhaid meddwl a ddylid defnyddio'r botwm eco, sport neu'r botwm safonol yn y modd gyrru; rhaid cofio peidio â defnyddio’r sbardun wrth fynd i lawr rhiw a gadael i’r car fynd yn ei bwysau, er mwyn peidio â defnyddio'r trydan.
I fod yn onest, mae wedi fy ngwneud i’n hollol paranoid ond dwi wedi dod i sylweddoli bod rhaid i mi ddysgu sgil newydd; bod rhaid i mi ddarllen y llyfr cyfarwyddiadau yn fwy trylwyr nag y byddwn i’n arfer ei wneud pan oedd gen i gar petrol. Ac mae wedi fy atgoffa o’m perthynas, fel Cristion, gyda Duw.
Mae wedi gwneud i mi sylweddoli, pan ddeuthum yn Gristion a gwrando ar alwad Duw ac ymateb iddi, fy mod wedi gorfod dysgu sgiliau newydd - roedd yn rhaid i mi ddarllen llawlyfr Duw, y Beibl, a gweithredu arno. Weithiau mae wedi fy ngwneud i’n paranoid, weithiau’n ofnus, pan dwi’n anghofio mai Duw sydd wrth y llyw, ac nid fi. Fel y dywed y proffwyd Micha yn well na mi, "a’r hyn a gais yr Arglwydd gennyt: dim ond gwneud beth sy’n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio’n ostyngedig gyda’th Dduw".
Dim ond pan sylweddolwn ni hyn a gadael i Dduw gymryd y llyw, y gallwn wneud ei ewyllys, a pheidio â gorfod chwilio am wefrydd yn gyson i roi hwb i'n batris.
Dwi wedi dod i'r casgliad bod yn rhaid i mi ddod i arfer â gyrru mewn ffordd newydd, a'i fwynhau.