Dyddiadur gwraig Person
Bon Voyage, Polly Zipperlen!
Pan fyddwch chi'n darllen yr erthygl hon, efallai y byddaf yn rhan o griw o bedair menyw sy'n rhoi cynnig ar rwyfo ar draws Môr yr Iwerydd. Dwi’n dweud "efallai" gan nad ydw i’n teimlo bod llwyddiant unrhyw ymdrech o'r maint hwn wedi'i warantu mewn unrhyw ffordd. Mae’n teimlo'n arbennig o berthnasol ar hyn o bryd gan ein bod ni heddiw yn eistedd ym Marina Rubicon, Lanzarote, yn aros i'r cwch gyrraedd - a ddylai fod wedi cyrraedd bythefnos yn ôl.

Gan fy mod yn berson gwydr hanner llawn, dydy hynny heb fy atal rhag cychwyn menter nad ydw i’n siŵr a fydd yn dwyn ffrwyth. Rai blynyddoedd yn ôl, dechreuais radd Meistr mewn Ymarfer Nyrsio Uwch, cwrs tair blynedd, gan ddim ond disgwyl cwblhau un modiwl, un aseiniad, un wythnos ar y tro. Wrth fynd ati i wneud prosiectau fel hyn, dwi’n gweld yn amlach na pheidio fy mod yn cwblhau tasgau nad oeddwn i’n gwbl argyhoeddedig y dylwn eu dechrau yn y lle cyntaf. Dydy hynny ddim i ddweud fy mod i bob amser yn llwyddiannus neu byth yn gwneud camgymeriadau ac yn wir alla’i ddim cymryd y clod llwyr mewn unrhyw ffordd. Mae yna gefnogaeth drwy weddi a chan deulu a'r gymuned ehangach bob amser.
Mae ein hymgais i rwyfo ar draws yr Iwerydd yn ymdrech un diwrnod, un shifft, un strôc ar y tro yn bendant, a hefyd yn ymdrech gymunedol o’r iawn ryw. Mae'r 3,200 milltir llawn yn fenter llawer rhy fawr i geisio ei chyflawni mewn un ymgais, a phryd bynnag y mae fy nghyd-aelodau a minnau'n ystyried anferthedd y daith, rydyn ni bron â chael traed oer. Yn hytrach, mae’r agwedd 'gadewch i ni roi cynnig arni’ yn ymddangos yn llawer iawn haws i’w mabwysiadu.
Gadewch i ni roi cynnig ar ddod o hyd i gwch rhwyfo addas ar gyfer cefnfor, gadewch i ni roi cynnig ar ddod o hyd i rywfaint o nawdd, gadewch i ni roi cynnig ar ddod o hyd i bedwerydd aelod o'r criw, gadewch i ni roi cynnig ar ddod o hyd i bedwerydd aelod arall. Ac un arall. Mae'n debyg nad yw pawb yn awyddus iawn i rwyfo ar draws yr Iwerydd! Ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, dyma ni, pedair menyw, ar ôl cwblhau cyrsiau mewn goroesi ar y môr, radio VHF a mordwyo, yn aros i'n cwch gael ei ddadlwytho o'i gynhwysydd llongau, ger y dociau yn Lanzarote.
Gyda chefnogaeth anhygoel ffrindiau a theulu, rydyn ni’n gobeithio bod yn barod i adael ymhen ychydig ddyddiau a bydd rhaid dibynnu’n llwyr arnom ni ein hunain i groesi’n llwyddiannus. Ond mae rhwystrau eto i'w goresgyn, a dwi’n siŵr y bydd straeon i'w hadrodd, ond mae'r cam cyntaf yn y rhan hon o'n taith yn dechrau gyda thaith i Arecife, Lanzarote a swyddfa tollau Sbaen.