Penderfyniad, cyflawniad ac optimistiaeth
![Benjamin [DRC] 2025](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/benjamin.width-500.jpg)
Ymhell o gartref, mae Benjamin Rwizibuka, cyn ohebydd Pobl Dewi o'n Hesgobaeth Gydymaith Bukavu, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo, yn teimlo'n gadarnhaol am y dyfodol
Fis Medi diwethaf, fe wnes i wireddu dyhead academaidd a fu gen i ers cyfnod hir trwy gofrestru ar y rhaglen MSc mewn Amaeth-Goedwigaeth a Diogeledd Bwyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r radd meistr hon yn cynnig dealltwriaeth fanwl o amaeth-goedwigaeth fel rhan o system gynaliadwy o gynhyrchu bwyd, ac mae’n rhoi sylw i gyd-destunau amgylcheddol a chymdeithasol. Fodd bynnag, roedd y daith i gyflawni hyn ymhell o fod yn syml.
Roedd y broses o gyrraedd Bangor o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo yn hir, yn straen ac yn ddrud. Rhwng y gweithdrefnau mewnfudo cymhleth a phroses recriwtio drylwyr y brifysgol, treuliais fwy na chwe mis yn llywio gwahanol ofynion a gwaith papur. Er gwaethaf yr heriau, roedd y cyfle i ddilyn y rhaglen arbenigol hon yn gwneud y daith anodd yn werth chweil.
Mae Bangor yn lle prydferth gyda'i thirwedd hyfryd a'i hamgylchedd tawel. Fodd bynnag, weithiau gall deimlo'n unig. Gall tawelwch y dref, yn enwedig gyda'r nos, fod yn wrthgyferbyniad llwyr â'r prysurdeb roeddwn i wedi arfer ag ef gartref. Er fy mod yn siarad â ’nheulu bron bob dydd, sy'n helpu i leddfu rhywfaint ar yr hiraeth, mae yna adegau pan fyddaf yn colli'r presenoldeb corfforol a'r cysur o gael fy amgylchynu gan anwyliaid.
Yn academaidd, dwi’n gwneud yn dda yn fy nosbarthiadau. Dwi wedi cwblhau pedwar modiwl hyd yn hyn, pob un yn rhoi gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr i mi sy'n hanfodol ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae'r gwaith cwrs wedi bod yn ddwys, ond mae hefyd wedi bod yn hynod fuddiol. Dwi wedi dysgu llawer am arferion amaethyddol cynaliadwy, heriau diogeledd bwyd ac atebion arloesol i sicrhau cyflenwad bwyd sefydlog i'r boblogaeth fyd-eang sy'n tyfu.
Wrth edrych ymlaen, dwi’n llawn cyffro wrth feddwl am raddio ac ymuno â’r farchnad swyddi. Mae maes amaethyddiaeth a diogeledd bwyd yn bwysicach nag erioed a dwi’n awyddus i gyfrannu at y sector hanfodol hwn. Fy nod yw gweithio mewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth gynaliadwy, gan helpu i ddatblygu a gweithredu strategaethau a all wella diogeledd bwyd a chefnogi cymunedau ledled y byd.