Mae Cymraeg yn ‘Cool’
Dewi Roberts, Swyddog Iaith Gymraeg, yn canfod newid diwylliannol
Roedd erthygl ym mhapur y Guardian ychydig flynyddoedd yn ôl gyda'r teitl "Cymru forever!” - How speaking Welsh became Cool gan Rhiannon Cosslett.
![Alffa [rock band]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Alffa.width-500.png)
Crybwyllwyd yn yr erthygl bod arwyddion o newid diwylliannol ymhlith y to ifanc, sydd bellach yn ystyried hi’n eithaf ‘cool’ i ddefnyddio’r iaith. Un arwydd o hyn oedd band roc Cymraeg yn cynhyrchu caneuon Cymraeg i’w dosbarthu dros y byd. Dion Jones a Sion Land o Alffa oedd y band cyntaf i basio miliwn o lawrlwythodau Spotify gyda chân Gymraeg. Chwarae teg iddynt am fod yn ddigon dewr i wneud hyn, heb wybod a fyddai'n llwyddiannus yn fasnachol. Yn ein hoes ddigidol lle gall caneuon deithio ar draws y byd mewn eiliadau, mae’n debyg nad yw rhwystrau iaith i'w gweld yn broblem bellach.
Ychydig wythnosau yn ôl roeddwn mewn Caffi yng Nghaerfyrddin ac yn digwydd gwrando ar ddynes o Loegr yn ceisio ei gorau glas i gyfathrebu yn Gymraeg i gwpl oedd yn amlwg yn gweithredu fel ei mentor yn yr iaith. Roeddent yn siarad yn araf yn Gymraeg â hi, ac yn ei hannog yn ei hymdrechion. Ac roedd hi'n amlwg yn awyddus i wella ei Chymraeg ac yn credu bod siarad Cymraeg yn rhywbeth da a ‘cool’ i wneud.