Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Gwasanaeth cymunedol – diamod

Gwasanaeth cymunedol – diamod

Mae John Gillibrand, gynt o'r plwyf hwn, yn disgrifio cynlluniau ar gyfer hwb cymunedol a fydd yn trawsnewid ymgysylltu lleol

Pontarddulias Church Int

Bûm yn gweithio yn Esgobaeth Tyddewi am flynyddoedd lawer ym mhlwyf Llangeler gyda Phen-boyr. Wrth i mi adael yn 2016, pan gefais fy mhenodi i blwyf Pontarddulais, roedd gen i lawer o atgofion hapus. Yn 2019, ychwanegwyd Eglwys Dewi Sant, Penlle’r-gaer at fy nghyfrifoldebau. Rydym bellach yn rhan o Ardal Weinidogaeth newydd Llwchwr, yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.

Fel cynifer o eglwysi eraill yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn ceisio dirnad y ffordd ymlaen neu yn wir ddirnad a oes ffordd ymlaen.

Wrth fynd ati i ddirnad, rhaid cychwyn trwy weddi, ac yn wir trwy rannu gweddi, wrth i ni geisio dirnad ewyllys Duw ar ein cyfer ni a’r cymunedau y cawsom ein gosod ynddyn nhw. Fy arwyddair bob amser yw gweddïwch cyn dechrau, gweddïwch unwaith y byddwch wedi dechrau, a daliwch ati i weddïo ar ôl i chi orffen. Mae gweddi yn sail i bopeth.

Adeiladwyd Sant Mihangel Pontarddulais rhwng 1900 a 1901 yn gartref i'r gynulleidfa Saesneg eu hiaith leol.

Ym mis Ionawr, cawsom gyfarfod i lansio ein cais am gyllid loteri a chyllid arall ar gyfer Calon y Bont. Ein bwriad yw trawsnewid yr eglwys yn llwyr. Os byddwn yn llwyddiannus, bydd gofod swyddfa, cegin newydd, toiledau a mynediad i'r anabl. Bydd man cyfarfod hyblyg, gyda'r hen gorau wedi'u clirio, cwymp-sgrin, system sain a mynediad i'r rhyngrwyd.

Beth fydd diben y gofod ar ei newydd wedd? Byddwn yn parhau i gynnal gwasanaethau’r Sul yno, ond bydd holl fanteision y gofod addoli hyblyg newydd yn ein galluogi i addoli yn y dull traddodiadol neu yn fwy anffurfiol.

Un o amodau cyllid y Loteri yw ein bod yn darparu gweithgareddau eraill yn y gofod sy’n agored i bawb, yn ddiwahân. Bydd Calon y Bont yn ddarlun o’n consyrn diamod am y gymuned leol a'n cariad tuag ati, ynghyd â’n gwaith cenhadol bwriadol. Byddwn yn ymchwilio i bartneriaethau ag unrhyw feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol sydd am ddefnyddio'r cyfleusterau hyn er budd y gymuned leol.

Rydyn ni wedi ymchwilio i anghenion lleol a gwelwyd pryder sylfaenol ynghylch y diffyg cefnogaeth i bobl ifanc yn y Bont, y tu allan i oriau ysgol. Felly, yn ogystal â'r cais am waith ar yr adeilad, i ddechrau, byddwn yn chwilio am gyllid i benodi gweithiwr ieuenctid, sydd wedi'i leoli yn yr adeilad ond hefyd yn gwneud gwaith yn y gymuned ehangach.

Mae'n fenter gyffrous iawn, ond mae ffordd bell i fynd. Daliwch ati i weddïo!