Wythnos o hud cerddorol
Bydd rhai o gerddorion gorau Prydain yn llenwi Eglwys Gadeiriol Tyddewi gyda cherddoriaeth anhygoel ym mis Mai. Ben Richards, y Rheolwr Cyngherddau sydd â’r manylion.
Mae Gŵyl Gerdd flynyddol Eglwys Gadeiriol Tyddewi, sydd bellach yn cael ei chynnal am y 44ain tro, yn dychwelyd yn ystod Hanner Tymor y Sulgwyn (23-28 Mai) gydag arlwy sy'n cynnwys hoff artistiaid ac enwau newydd i’r Ŵyl.
Mae'r Ŵyl yn dechrau yn ôl yr arfer gyda Chyngerdd Lansio sy'n cynnwys tua 120 o blant ysgol o bob rhan o'r sir, yn canu amrywiaeth o gerddoriaeth wedi’i dewis a’i harwain gan yr arweinydd Suzzie Vango.
Uchafbwynt blynyddol rhaglen yr Ŵyl yw'r perfformiad gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sy'n dychwelyd ddydd Sadwrn 24 Mai. Yn cael ei harwain eleni gan un sy’n prysur gwneud enw iddo’i hun, y seren o’r Ffindir, Kristian Sallinen, mae ei rhaglen ar gyfer 2025 yn cynnwys Symffoni Rhif 9 bwerus Dvorak o’r Byd Newydd, ynghyd â Fantasia ar hwiangerddi Cymru gan y gyfansoddwraig Gymreig Grace Williams a Sea Pictures gan Edward Elgar, gyda’r unawdydd Claire Barnett-Jones, a gyrhaeddodd rownd derfynol Canwr y Byd Caerdydd y BBC.
Eleni, mae'r Ŵyl yn croesawu'r pianydd a'r arweinydd Jocelyn Freeman, brodor o Sir Benfro, yn Artist Preswyl. Bydd yn perfformio mewn tri chyngerdd – nos Sul bydd yn ymuno â Phedwarawd Llinynnol Alkyona ar gyfer perfformiad o Bumawd y Brithyll Schubert, a hefyd Pedwarawd Llinynnol Ravel, gan nodi 150 mlwyddiant ei enedigaeth.
Ddydd Llun Gŵyl y Banc, bydd hi’n ymuno â Vox Angelica a’r Vicars Choral fel unawdydd gwadd ar gyfer noson o gerddoriaeth gorawl a madrigalau, i’r dim ar gyfer noson o haf. Ddydd Llun Gŵyl y Banc bydd chwaraewr tiwba lleol, Aled Meredith-Barrett, yn perfformio gyda'i bumawd pres Connaught Brass, mewn rhaglen sy'n cynnwys cerddoriaeth o West Side Story a'r perfformiad cyntaf yn y DU o waith newydd gan y cyfansoddwr Americanaidd, Carlos Simon.
![James Gilchrist [cathedral music festival]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/James_Gilchrist.width-500.jpg)
![Queen's-Six [copyright-Gill-Heppell]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Queen_s-Six-Oct-2021-copyright-Gill-Heppell-20.width-500_uimmxf0.jpg)
Ddydd Mawrth, bydd Jocelyn yn ymuno â'r tenor James Gilchrist [llun] a'i fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn cyngerdd dan y teitl Cariad Bardd, a fydd yn dathlu gwaith Dylan Thomas gyda gosodiadau o'i farddoniaeth gan William Mathias, Rhian Samuel a Meirion Williams. Bydd Gilchrist a Freeman yn ategu'r darnau hyn gyda pherfformiad cyflawn o Dichterliebe gan Robert Schumann, un o'r cylchoedd o ganeuon rhamantus mawr.
I gloi'r Ŵyl, bydd chwechawd lleisiol Queen’s Six [llun] yn cyflwyno eu rhaglen Mapping the Stars sy'n cynnwys cerddoriaeth drawiadol gan Monteverdi a Taverner, ynghyd â threfniannau o ganeuon cyfoes gan gynnwys Viva la Vida gan Coldplay a We Built This City on Rock and Roll. Mae'n sicr o fod yn ddiweddglo tan gamp i chwe diwrnod o gerddoriaeth anhygoel.
Bydd y tocynnau ar gyfer gŵyl 2025 ar werth o 8 Mawrth. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.stdavidscathedral.org.uk/music-festival