‘’Dros y dŵr i draeth Llansteffan….’
‘Dros y dŵr i draeth Llansteffan….’ medde’r gân ac yn wir i chi ma fferi Glanyfferi a Llansteffan neu Glansteffan fel yr enwir hi, yn gwneud hyn yn rheolaidd drwy dymor yr haf ac ar adegau arall o’r flwyddyn. Os mynnwch, gallwch fynd am drip gyda’r afon i Gaerfyrddin neu fynd draw i gyfeiriad Talacharn yn ogystal â chroesi i Lansteffan.
Mae’n debyg bod fferi o ryw fath wedi bodoli ar draws yr aber ers cyn cof. Teithiai’r pererinion o’r Dwyrain drwy Lanelli a rhai drwy fro Gŵyr cyn cyrraedd Cydweli a gorffwys yn Sant Ishmael. Yna, croesi’r Tywi yng Nglanyfferi i Lansteffan neu Dalacharn ac ymlaen i Dyddewi.
Daeth criw o bererinion yma ddeuddeg mlynedd yn ôl ar daith i Dyddewi. Cawsant wasanaeth byr yn St Ishmael . Bryd hynny doedd dim fferi ac fe aethpwyd â nhw dros y dŵr mewn cychod. Ond beth am fferi Glansteffan? Yn ôl papur yr ‘Independent’ ym mis Awst 2022 ‘one of the world’s most spectacular ferry crossings’ a chafodd ei rhestru gyda saith arall mor bell â’r Caribi, Gwlad yr Iâ,Siapan ac Awstralia. Dywedodd yr Arglwydd Nelson mai dyma yr olygfa orau yn y byd!
Adeiladwyd y fferi gan Robust Boats yn Nhyddewi a’I henwi yn Glansteffan gan blant ysgolion Llansteffan a Glanyfferi. Oherwydd y mwd gludiog ar lannau’r afon, roedd rhaid dyfeisio ffordd i lanio yn esmwyth - mae’n debyg i Gerallt Gymro a’r arlunydd Turner gwyno am y mwd wrth ddringo i’w cychod! Daeth yr ateb o Seland Newydd ac mae gan Glansteffan olwynion modur y gellir eu gollwng a’u codi. Gallwch nawr gael traed sych wrth fynd ar y fferi a glanio!
Daeth dydd yr hen fferi i ben yn y 1950au cynnar, a dyn lleol, yr Athro Kenton Morgan cafodd y weledigaeth o atgyfodi’r fferi rhwng y ddau bentref - fferi fodern - a ganwyd cwmni Fferi Bae Caerfyrddin. Mae’r fferi a’r staff wedi cael eu hardystio gan Asiantaeth forwrol Gwylwyr y Glannau a maent yn forwyr profiadol cymwysedig. Hefyd, caiff y fferi ei bendithio gan yr offeiriad, fel pob cwch arall yng Nglanyfferi, yng ngwasanaeth Bendithio’r Cychod a gynhelir yn flynyddol yn y gwanwyn. Tra’n teithio ar y fferi cewch sylwebaeth am hanes yr ardal, chwedloniaeth, bywyd gwyllt, a chymeriadau lleol a phwysigrwydd record cyflymder tir ym Mhentywyn a Dylan Thomas yn Nhalacharn.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn heidio i Lanyfferi unrhyw benwythnoso Fawrth i Fedi ac yn ddyddiol yn ystod gwyliau ysgol. Croeso i chi gyd. Diolch i’r Hybarch Dennis Wight, Siân Wight a Rob Harley am eu cyfraniadau