Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Gwên y gwanwyn

Gwên y gwanwyn

Mae Mawrth yn fis delfrydol i wrando am gân y Fronfraith Fawr ac erbyn hyn, ein mynwentydd yw’r llefydd delfrydol i’w canfod.

Mistle Thrush [unsplash]

Ânt ati i ddechrau atgenhedlu ym mis Chwefror ac erbyn mis Mawrth, fe’u clywch nhw’n datgan o frigau uchaf y coed tal. Yn wahanol i fronfreithiaid eraill fel y Fronfraith Fach a’r Deryn Du, mae’r Fronfraith Fawr yn nodedig am ganu mewn storm ac yn cael ei hadnabod weithiau fel Ceiliog y Storm (Storm Cock) neu hefyd fel ‘Throstles,’ sef hen enw Seisnig arnynt. Wrth ganu o ben y coed uchaf, gallant chwyddo’u lleisiau uchel fwyfwy a chânt eu clywed hyd at ddwy gilometr i ffwrdd.

Mewn cymhariaeth â bronfreithiaid eraill, mae cân y Fronfraith Fawr yn fwy undonog a threiddgar ond mae ei chlywed yn dal yn bleser wrth iddi ddatgan dyfodiad y gwanwyn. Gallwch adnabod y dair bronfraith wrth eu cân ac unwaith y dewch i wybod y gwahaniaethau rhyngddynt, maent yn gymharol rhwydd i’w hadnabod. Mae gwefan yr RSPB yn lle da i fynd i wrando arnynt fel man dechrau.

Mae’r Fronfraith Fawr yn ffafrio tir tebyg i dir parc gyda’i goed tal a’i borfa lle gall fwyda ar amryw bryfetach a mân greaduriaid amrywiol. Mae’n mynwentydd yn berffaith gyda’u pridd aeddfed heb ei weithio sydd o’r herwydd yn llawn pryfedtach, heb fawr neu ddim plaladdwyr yno a choed aeddfed a thal er mwyn nythu a chlwydo. Plannwyd nifer o goed bythwyrdd yn ein mynwentydd nôl yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg ac erbyn hyn, maent wedi cyrraedd llawn dwf ac yn aeddfed – a hynny’n berffaith ar gyfer bronfreithiaid ynghyd â nifer o adar ac anifeiliaid eraill.

Mae Fronfraith Fawr yn prinhau yn y DU ar hyn o bryd a gall ein mynwentydd gynnig noddfeydd a chadarnfeydd iddi. Os clywch un yn canu, ceiliog fydd ef yn cyhoeddi ei diriogaeth, arwydd da o nythu ac atgenhedlu.