Arwyddion gofal - nid esgeulustod

Ar ôl galw mawr, mae Gofalu am Erw Duw wedi cynhyrchu rhai arwyddion i wardeniaid eglwysi i’w defnyddio yn eu mynwentydd.
Cynlluniwyd hwy i fynd nesaf at ardaloedd sy’n cael eu gadael i dyfu’n ‘wyllt’ a llawn blodau - a bioamrywiaethol, yn ystod misoedd yr haf.
Mynwentydd yn aml yw’r ardaloedd amgaeedig hynaf yn y gymuned ac yn gartref i laswelltir sydd wedi para’n weddol ddigynnwrf ers canrifoedd. Mae’r ail hadu graddol dros amser wedi creu ecosystem o borfeydd, blodau ac anifeiliaid. Mae’r glaswelltir hynafol fel ag y mae, a oedd unwaith yn helaeth ar draws y DU, nawr yn brin iawn. Rydym wedi colli 97% ers yr ail ryfel byd.
Mae caniatáu i rai ardaloedd yn ein mynwentydd i dyfu’n rhydd yn ystod misoedd yr haf yn gadael i’r blodau flodeuo unwaith yn rhagor. Fodd bynnag, mae’n bwysig rhoi gwybod i ymwelwyr pam ein bod yn gadael i’r borfa dyfu mor hir er mwyn osgoi pryder heb angen. Mae’n rhaid i ni ddweud wrthynt mai rheoli gweithredol yw ac nid esgeulustod!
Mae chwech arwydd i ddewis ohonynt, yn Saesneg ac yn Gymraeg/Saesneg. I gael mynediad iddynt, yn barod i’w hargraffu, ewch at y wefan isod ac enwi’r fynwent. Mae hyn yn help i GaeD i dracio ble mae’r gwaith da’n digwydd!
https://www.caringforgodsacre.org.uk/free-meadow-management-sign