Dathliad Iŵbil Arian
Eleni, bydd ‘Cursillo’ Tyddewi yn cynnal ei bumed-penwythnos-ar-hugain. Y Cyfarwyddwr Ysbrydol, David Payne, sy’n esbonio ymhellach.
Mudiad o fewn yr Eglwys yw ‘Cursillo’ sy’n darparu modd i Gristnogion ymrymuso er tyfu drwy weddi, astudiaeth a gweithred ac ymalluogi i rannu cariad Duw ag eraill.
Cynhelir y penwythnos ddathliadol yng Nghanolfan Encil Llangasty ger Aberhonddu o ddydd Iau 26ain tan ddydd Sul 29ain Medi.
Penwythnosau ‘Cursillo’
Mae penwythnos ‘Cursillo’ yn dridiau o hyd, gan amlaf o nos Iau hyd at brynhawn Sul. Arweinir pob penwythnos gan dîm o wŷr lleyg a chlerigwyr sydd bob un wedi profi penwythnos ‘Cursillo’ eu hunain. Yn ystod y tridiau, bydd ymrannwyr (Cursillitas) yn byw, addoli a dysgu gyda’i gilydd. Bydd cyflwyniadau gan arweinwyr sy’n ymwneud â phrif agweddau bywyd a ffydd Gristnogol megis grâs, ffydd a gweithred. Bydd yr agweddau hyn yn cael eu trafod hefyd mewn grwpiau gwaith ac yn cael eu gwreddio a’u hategu drwy weddi ac adfyfyriaeth tawel.
Beth gewch chi mas o’r tridiau?
Mae penwythnosau ‘Cursillo’ yn fodd arbennig o gwrdd â phobl sy’n rhannu dymuniad cyffredin i ddyfnhau eu perthynas â Duw. Maent yn troi rhag yr addoli gwasanaethol, arferol ac yn cynnig atgyfnerthiad mewn ymroddiad Cristnogol o fewn cymuned. Mae’n gyfle i ddarganfod ein rhoddion a’n talentau personol a’u defnyddio ar gyfer gwasanaeth ac arweinyddiaeth Gristnogol fel y gallwn adeiladu a hyrwyddo tystiolaethu o fewn yr Eglwys a’r Esgobaeth er adnewyddu a thrawsnewid y ddau.
Os hoffech fod yn rhan o’r penwythnos, gallwch gael gwybodaeth bellach oddi wrth:
Cyfarwyddwr Lleyg, Caroline Llewelyn cursillostdavidslaydirector@btinternet.com
Neu’r Cyfarwyddwr Ysbrydol, Parch David Payne revdrpayne@btinternet.com