Cymuned gyfan yn cymryd rhan
Mae gan Plant Dewi amrywiaeth o brosiectau cymorth i deuluoedd ledled yr esgobaeth ac mae'n galonogol gweld sut mae Tŷ Mair, Canolfan Deuluol Porth Tywyn a'r eglwys leol yn dod at ei gilydd i weithio gyda theuluoedd a phlant lleol. Dyma adroddiad Shan Cheesman, Rheolwr Tŷ Mair
Mae Eglwys y Santes Fair, yn hanesyddol, wedi chwarae rhan ganolog ym mywyd y ganolfan deuluol. Yn 2010, roedd gan grŵp o bobl o'r un anian o'r ysgolion lleol, yr eglwys a'r gymuned weledigaeth i gefnogi teuluoedd – felly gyda'i gilydd, aethant ati i sefydlu pwyllgor a chofrestru fel elusen. O ddechrau digon di-nod Grŵp Teuluoedd Ynghyd (Families Together) wythnosol, mae'r elusen wedi tyfu i fod yn wasanaeth pum diwrnod yr wythnos, gan weithio'n fewnol a chynnig darpariaeth allgymorth i gymunedau cyfagos.
![Plant Dewi Family Centre [Burry Port] 1](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Plant_Dewi_Family_Centre_Burry_Port_1.width-800.jpg)
Mae'r Parchedig Lorna Bradley, Cadeirydd presennol y ganolfan, wedi parhau ac yn dal i feithrin cysylltiadau ystyrlon rhwng Tŷ Mair a'r eglwys. Mae rhai o'r gynulleidfa yn eistedd ochr yn ochr â Lorna ar y pwyllgor rheoli ac eraill yn codi arian ar gyfer y ganolfan.
Mae’r gwaith codi arian yn cael ei wneud trwy Foreau Coffi, y grŵp Astudiaeth Feiblaidd a rhoddion ariannol hael i'r ganolfan. Mae'r ganolfan yn cymryd rhan yn y daith gerdded noddedig flynyddol, gan roi cyfle i'r ganolfan a'r eglwys ddod at ei gilydd mewn ffordd anffurfiol, gan orffen y diwrnod gyda the i bawb yn yr eglwys gan roi seibiant mawr ei angen a chyfle i bobl nad ydyn nhw’n eglwyswyr selog i ymweld â'r adeilad.
Mae gan Eglwys y Santes Fair gwpwrdd dillad cymunedol mewnol y gall y ganolfan gyfeirio teuluoedd ato, diolch i haelioni'r gymuned. Mae hyn yn helpu i liniaru effaith yr argyfwng costau byw ar gyllidebau teuluoedd. Yn ystod y flwyddyn, mae Lorna wedi cyflwyno Gwasanaeth Cristingl, sesiwn Myfyrdodau’r Pasg ac mae wrth law ar gyfer gofal bugeiliol i staff a theuluoedd fel ei gilydd. Mae Tŷ Mair hefyd wedi mwynhau digwyddiad Bwgan Brain y Cynhaeaf a Gŵyl y Goeden Nadolig, gan estyn croeso cynnes i deuluoedd i’w heglwys leol.
Os oes gennych chi brosiect Plant Dewi yn eich ardal, cysylltwch â ni i weld sut y gallwch gymryd rhan. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Plant Dewi – www.plantdewi.org.uk neu e-bostiwch info@plantdewi.co.uk