Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 Rhyng-ffydd

Rhyng-ffydd

Gŵyl bererindod Hindŵaidd yw’r Kumbh Mela sy'n cael ei chynnal yn India bob 12 mlynedd yng nghymer afonydd Ganga ac Yamuna yn nhalaith ogleddol Uttar Pradesh. Y Swyddog Rhyng-ffydd, Shirley Murphy, sy’n disgrifio'r profiad.

Kumbh Mela [amit-gaur--unsplash]

I lawer o bererinion Hindŵaidd, mae ymdrochi fel rhan o’r ŵyl lle mae tair afon sanctaidd yn cwrdd yn daith ysbrydol unwaith mewn oes. Mae miliynau ar filiynau o bererinion yn tyrru yno, mewn ton ddi-baid o bobl, gan greu un o'r cyfarfodydd crefyddol mwyaf mewn hanes.

Mae'n seiliedig ar y gred bod ymdrochi yn yr afonydd sanctaidd yn glanhau pechodau, yn dod â phobl yn agosach at ryddhad ysbrydol ac yn rhoi bendithion sy'n para am genedlaethau lawer. Mae’r pererinion yn gwneud y daith nid yn unig iddyn nhw eu hunain ond i'w plant a'u hwyrion.

Ddydd ar ôl dydd, mae'r dorf yn chwyddo, gyda phawb wedi'i wasgu'n agos at ei gilydd. Maen nhw'n gwneud eu ffordd trwy fôr o bobl, gan droedio'n ofalus i lawr y llethr cyn cyrraedd glan yr afon. Ar adegau maen nhw'n pwyso yn erbyn pobl sydd yn eu hymyl rhag iddyn nhw syrthio, ar adegau eraill maen nhw mewn perygl o sathru ar y rhai sydd o'u cwmpas.

Mae'r ŵyl yn cael ei dathlu pan fydd Iau yn arwydd Aquarius (Kumbh). Eleni, roedd hynny rhwng 13 Ionawr a 26 Chwefror yn y Triveni Sangam yn Prayagraj, un o bedair dinas lle mae'r ŵyl yn cael ei chynnal.

Mewn mytholeg Hindŵaidd, yn ystod y sagar manthan neu gorddi'r cefnfor o laeth gan dduwiau a chythreuliaid, bu brwydr ffyrnig dros yr amrit (neithdar anfarwoldeb). Yn y frwydr gosmig hon, arllwysodd y duwiau bedwar diferyn o neithdar anfarwoldeb ar y Ddaear a, phan fydd y Lleuad ac Iau yn alinio, mae afonydd Ganga ac Yamuna yn ymuno ag afon gyfriniol o'r enw Saraswati, sy'n cwrdd yn y mannau lle glaniodd y neithdar dwyfol.

Kumbh Mela [tarikul-raana-unsplash]

Denodd yr ŵyl 45 diwrnod tua 400 miliwn o bobl, nifer syfrdanol sy'n gwneud i'r ddwy filiwn o bererinion sy’n teithio i Saudi Arabia ar gyfer y bererindod Hajj flynyddol y llynedd ymddangos yn fach.

Cafodd safle'r bererindod ei droi'n ddinas eang o bebyll, yn ymestyn dros 40 cilometr sgwâr ar hyd glannau'r afon a'i rannu'n 25 adran er mwyn ei reoli'n haws. Roedd dros 3,000 o geginau, 150,000 o doiledau ac 11 ysbyty. Bu Rheilffyrdd yr India yn rhedeg mwy na 90 o drenau arbennig, a chafwyd bron i 3,300 o deithiau i gludo'r ffyddloniaid, yn ychwaneg i’r teithiau rheolaidd.

Mae seintiau, selogion ioga, teithwyr, ffotograffwyr a chredinwyr o bob cwr o'r byd yn dod i'r Maha Kumbh Mela am wahanol resymau. Mae rhai yn cael eu denu gan y perfformiadau diwylliannol bywiog, yr arddangosfeydd cyfareddol o gelfyddyd werin a bwydydd traddodiadol, a'r cyfle i ymgolli mewn diwylliant Indiaidd bywiog. Mae eraill yn ei ystyried yn gyfle unigryw i ddod i gysylltiad â sadhus, dynion sanctaidd sy’n byw eu bywydau yn syml a darbodus iawn, gan gynnig cipolwg ar draddodiadau ysbrydol hynafol.