Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 Pan gododd y Dyfroedd

Pan gododd y Dyfroedd

Neil Hook sy’n adrodd stori am letygarwch a gobaith yn Hwlffordd

“Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch.” (Rhufeiniaid 12.13)

Pan ddinistriodd dŵr llifogydd adeilad Oriel VC yn Hwlffordd y llynedd, nid brics a morter yn unig a gafodd eu sgubo i ffwrdd. O fewn oriau, collwyd un o hanfodion y gymuned - sesiynau therapi celf i gyn-filwyr, grwpiau cymorth iechyd meddwl, gweithdai creadigol i'r rhai sy'n gwella o drawma, a chanolfan galw heibio groesawgar i unrhyw un mewn angen.

Ond nid dyna oedd diwedd y stori.

Agorodd Eglwys Sant Martin of Tours, sydd dafliad carreg i ffwrdd, ei drysau led y pen. Gan gydnabod yr angen a'r cyfle i wasanaethu, cynigiodd cymuned yr eglwys, dan arweiniad y Parch Jude Bevan, Offeiriad Arloesi, ddefnydd eu neuadd amlbwrpas fel cartref newydd ar gyfer gweithgareddau'r oriel. Gyda chynhesrwydd a haelioni, roedd Eglwys Sant Martin yn darparu mwy na dim ond gofod: roedden nhw'n cynnig gofal, croeso, a lle i fywyd cymunedol barhau.

VC Breakfast Three

Wrth wraidd y cyfan roedd arweinyddiaeth y Parch Jude nid yn unig yn stiwardio'r cydweithredu ond yn darparu gofal bugeiliol tawel, ffyddlon i bawb a ddaeth drwy'r drysau. O fewn dyddiau, trawsnewidiwyd y neuadd yn ganolfan o greadigrwydd, cefnogaeth a pherthyn. Bob bore Gwener, roedd arogl brecwast a sŵn chwerthin yn llenwi'r gofod unwaith eto.

Wythnos ar ôl wythnos, daeth y neuadd yn fan ymgynnull lle'r oedd celf, sgwrs, a chwmnïaeth yn pwytho tapestri newydd o obaith. Cafodd 1,641 brecwast eu gweini, pob un yn weithred o garedigrwydd, gwledd fach o adferiad i'r rhai oedd ei angen fwyaf.

Roedd hon yn fwy na phartneriaeth ymarferol; roedd yn hynod bersonol. Blodeuodd cyfeillgarwch newydd. Chwalwyd rhwystrau. Darganfu'r eglwys a'r oriel, dwy gymuned wedi'u ffurfio gan alwadau gwahanol, gyd-genhadaeth: sef sefyll law yn llaw â'r bregus, i gynnig urddas, ac adeiladu lleoedd lle mae pob person yn cael ei weld a'i werthfawrogi.

Nawr, wrth i Oriel VC baratoi i ddychwelyd i'w chartref sydd wedi'i adfer, mae'r amser a rannwyd yn Eglwys Sant Martin yn cael ei ddathlu, nid fel diweddglo ond fel dechrau rhywbeth parhaol. Bydd y cysylltiadau a ffurfiwyd dros gyfnod o fisoedd o gydweithio yn parhau i lywio bywyd Hwlffordd, ac yn dyst i'r hyn sy'n bosib pan fydd ffydd yn cwrdd ag angen, a lletygarwch yn troi’n Efengyl fyw.

Ym mhob croeso a gynigir, pob brecwast a rennir, a phob llaw a estynnir mewn cyfeillgarwch, mae Eglwys Sant Martin wedi dangos bod yr Eglwys ar ei mwyaf pwerus pan mae'n caru ei chymydog.