Arddangos casgliad unigryw o Feiblau cynnar
Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi, sy’n amlinellu cyfleoedd i Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol ledled yr esgobaeth rannu gwaith a gafodd ei ddwyn ynghyd ar gyfer cynhadledd arbennig Llyfrgelloedd yr Eglwysi Cadeiriol.
Am y tro cyntaf, mae Cymru'n cynnal cynhadledd flynyddol Cymdeithas Archifau, Llyfrgelloedd a Chasgliadau Eglwysi Cadeiriol y DU ac Iwerddon (CALCA). Fe'i cynhelir ar 17, 18 a 19 Mehefin.
Bydd sesiwn fawr o'r gynhadledd yn canolbwyntio ar Feiblau cynnar a gynhyrchwyd yn Gymraeg fel prosiect allweddol yng Nghymru yn Niwygiad y 16eg a'r 17eg ganrif. Pan oedd y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn cael ei chyflwyno, datganodd y Frenhines Elizabeth I ei bod eisiau gweld Beibl Cymraeg ym mhob pentref yng Nghymru.

Ar gyfer y gynhadledd, bydd Beiblau Cymraeg gwreiddiol o 1567, 1588, 1620 a 1770 i’w gweld. Roedd Elizabeth I yn bwriadu dod â'r eglwysi yng Nghymru o dan arweinyddiaeth gyffredin yr eglwys Ddiwygiedig a oedd dal i fod yn gythryblus. Yn anfwriadol, efallai ei bod hi hefyd wedi achub yr iaith Gymraeg.
Y Beibl Cymraeg yn ei ffurf safonol oedd y llyfr cyntaf a ddosbarthwyd yn eang yn y Gymraeg ac a sefydlodd Gymraeg ysgrifenedig derbyniol, hawdd ei deall. Arweiniodd hefyd at ddiddordeb eang ymhlith pobl a oedd eisiau ei ddarllen eu hunain a chael copïau gartref. Daeth twf llythrennedd yng Nghymru yn sgil hynny; rydyn ni i gyd yn gwybod y stori am Mari Jones yn cynilo ac yna’n cerdded ar draws y mynyddoedd i'r Bala i brynu Beibl at ei defnydd ei hun gartref. Dyma hefyd wreiddiau'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (SPCK).

Yn y gynhadledd, bydd gennym hefyd yr Hen Destament cyntaf yn yr iaith Wyddeleg. Mae hwn bellach yng ngofal Llyfrgell Cotton yn Eglwys Gadeiriol Sant Carthage, Lismore yn Swydd Wexford. Bydd y llyfr hwn yn ymddangos mewn sesiwn sy'n ystyried hanes Llyfrgelloedd Eglwysi Cadeiriol Iwerddon.
Mae croeso i bobl o bob rhan o'r esgobaeth fynychu cynhadledd CALCA. Gellir archebu ar-lein, a gweld rhaglen lawn y gynhadledd, trwy wefan yr Eglwys Gadeiriol neu drwy anfon ymholiad at CALCAconference@StDavidsCathedral.org.uk.
Ar ôl y gynhadledd bydd nifer o ymweliadau a theithiau tywys i Lyfrgell yr Eglwys Gadeiriol hefyd yn cael eu cynnal a gellir eu harchebu ar-lein trwy wefan yr eglwys gadeiriol. Os hoffai unrhyw Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol hefyd drefnu eu hymweliadau grŵp eu hunain â Llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol i weld y casgliad unigryw hwn o Feiblau cynnar, sy'n adrodd hanes ein Cristnogaeth Geltaidd yng ngorllewin Cymru a de-ddwyrain Iwerddon, yna gellir trefnu hynny. Cysylltwch â mi ar Library@StDavidsCathedral.org.uk i drafod dyddiadau a threfniadau.