Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 Y safbwynt Pwylaidd

Y safbwynt Pwylaidd

Cyfraniad sylweddol i ymdrech ryfel y Cynghreiriaid

George Lisinski sy’n tynnu sylw at gyfraniad pwysig milwyr Pwylaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Ymosododd yr Almaen ar Wlad Pwyl ar 1 Medi 1939, gan ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Yn dilyn cytundeb cynharach rhwng yr Undeb Sofietaidd a'r Almaen i beidio ag ymosod, llifodd lluoedd y Sofietiaid i mewn i Wlad Pwyl hefyd ar 17 Medi. Yn y cyfamser, cafwyd datganiad gan Brydain a Ffrainc eu bod yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen Natsïaidd wedi iddyn nhw ddechrau goresgyn Gwlad Pwyl. Ildiodd y Pwyliaid, wedi’u llethu o bob cyfeiriad, ar 6 Hydref.

Wedi'i threchu gan y gelyn, carcharwyd byddin Gwlad Pwyl mewn gwersylloedd carcharorion rhyfel newydd yng Ngwlad Pwyl, yr Almaen a'r Undeb Sofietaidd. Llwyddodd llawer o filwyr Pwylaidd i ddianc rhag y gwrthdaro, gan wneud eu ffordd trwy Hwngari i Ffrainc a Phrydain. Ffurfiwyd llywodraeth alltud Gwlad Pwyl yn Llundain i reoli gweddillion lluoedd Gwlad Pwyl gan gysylltu â'r Cynghreiriaid Prydeinig a Ffrengig a pharhau â'r frwydr yn erbyn y Natsïaid.

Władysław_Anders [Polish General WW2]

Ymhlith y rhai a garcharwyd yn yr Undeb Sofietaidd roedd y Cadfridog Wladyslaw Anders, a gafodd ei anafu yn ystod y goresgyniad cychwynnol a'i garcharu yng Ngharchar Lubyanka ym Moscow.

Cafodd sawl swyddog Pwylaidd arall eu dal gan y Sofietiaid a'u cludo i Rwsia. Cuddiwyd eu tynged rhag y Cynghreiriaid tan 1941 ar ôl i'r Almaenwyr lansio eu hymosodiad ar Rwsia. Cyhoeddodd y Natsïaid eu bod wedi darganfod bedd torfol yn Smolensk o ryw 22,000 o swyddogion Pwylaidd. Gwrthododd y Sofietiaid dderbyn cyfrifoldeb am y gyflafan hon tan 1991.

Pilots_of_No._303_(Polish)_Squadron[October_1940]

I'r awyrenwyr Pwylaidd hynny a lwyddodd i ddianc rhag yr Almaenwyr a'r Sofietiaid goresgynnol, ymunodd nifer sylweddol â'r Awyrlu Brenhinol gan gymryd rhan ym Mrwydr Prydain ym 1940. Roedd tua 5% o beilotiaid y Cynghreiriaid a gymerodd ran yn y gwrthdaro awyr hwn yn Bwyliaid.

Gydol gweddill y rhyfel, parhaodd Gwlad Pwyl i fod dan oresgyniad. Fodd bynnag, bu dau wrthryfel aflwyddiannus yn Warsaw yn ystod y cyfnod hwn: Y geto Iddewig (1943) a gwrthryfel Warsaw (1944).

Ar ôl i'r Almaen lansio Cyrch Barbarossa ym mis Mehefin 1941, canolbwyntiodd y Cynghreiriaid eu sylw ar weddill milwyr Gwlad Pwyl a oedd wedi'u carcharu yn yr Undeb Sofietaidd a'r posibilrwydd o'u hymfyddino'n adran newydd i'r Cynghreiriaid. Cytunodd Stalin i'r cynllun hwn a rhyddhawyd Anders o Lubyanka i reoli'r ymfyddino hwn. Crëwyd "Byddin Anders" felly gyda milwyr Pwylaidd wedi'u rhyddhau o wersylloedd carcharorion rhyfel a'u cyfarwyddo i wneud eu ffordd i'r de i Kazakhstan ac yn y pen draw i Tehran. Fe wnaethon nhw chwarae rhan bwysig ym mrwydr lwyddiannus Monte Casino ym 1944.

Roedd cyfraniadau milwrol Pwylaidd eraill yr Ail Ryfel Byd yn cynnwys dadgryptio peiriant Enigma, Brwydr Arnhem a Gwarchae Tobruk.