Beth bynnag a ddaw, hindda neu law
Mae Anne May wedi mwynhau gweithio gyda myfyrwyr Coleg Elidyr yng ngardd Palas yr Esgob
Gyda’r gwanwyn ar ei ffordd mae’n hen bryd i fyfyrwyr Coleg Elidyr dorchi eu llewys. Ers 2023, haul neu law, mae criw bach Coleg Elidyr yn dod i Barc yr Esgob bob wythnos. Mae profiad gwaith yn cynnig cyfle arbennig iddyn nhw weld beth i’w ddisgwyl wrth weithio mewn lleoliad cyhoeddus.

Sefydlwyd Coleg Elidyr yn Rhandirmwyn yn 1973 ar gyfer pobl ifanc gydag anghenion arbennig. Pryd hynny, cred wreiddiol y sefydliad oedd bod pawb yn haeddu parch a chyfle cyfartal mewn bywyd. Heddiw, prif nod y coleg yw “dysgu trwy weithio”.
Wrth gyrraedd y parc mae pawb yn mynd i'r ystafell wirfoddoli i gwrdd â’r prif arddwr. Ar ôl trafod tasgau mae staff Coleg Elidyr yn defnyddio technoleg ‘widgit’ (symbolau) i gyfleu beth sy angen ei wneud gyda’u myfyrwyr.
Dyma restr o bethau hanfodol ar gyfer gwaith garddio:
- cot law
- menig diogelwch
- esgidiau cryfion
- diod a brechdanau
Ar ôl gwisgo mae pawb yn barod i gasglu offer o’r sied twls.

Trwy gydol y flwyddyn, mae rhestr o dasgau cynnal a chadw i’w gwneud o gwmpas y parc gan gynnwys: trwsio llwybrau, chwynnu, a chlirio mieri. Yn ogystal â’r tasgau rheolaidd, mae’r grŵp yn cyflawni nifer o dasgau tymhorol:
Y Gwanwyn - Adeg dda i hau hadau wrth i'r dyddiau gynhesu
Yr Haf - Tynnu Jac y Neidr sy’n tyfu’n hynod o gyflym o gwmpas y parc ac yn atal planhigion brodorol rhag tyfu.
Yr Hydref - Yng nghornel yr ardd furiog mae perllan o goed afal hynafol. Un o’r tasgau gorau i’w gwneud yr adeg hon yw hel a golchi afalau a’u rhoi mewn gwasg draddodiadol. Ar ôl cyflawni’r dasg, roedd pawb wrth eu boddau yn blasu sudd afal ffres.
Y Gaeaf - Adeg ddelfrydol i docio a chael gwared â phlanhigion marw a chasglu dail sy wedi disgyn o'r coed er mwyn gwella safon y pridd
Dywedodd cyn-fyfyriwr Ethan:
“Dw i’n falch iawn. Dw i wedi dysgu sgiliau newydd fel plannu bylbiau a dw i’n gallu adnabod coed brodorol sy’n tyfu o gwmpas y parc.”
Dywedodd Swyddog Ymgysylltu Parc yr Esgob:
“Mae’n fraint gweithio gyda’r grŵp hwn! Yn ystod y flwyddyn mae pawb yn cydweithio’n dda gyda’i gilydd. Prif nod ein prosiect yw gwneud ein gardd yn ardd i bawb!”
Mae’r bartneriaeth rhwng Coleg Elidyr a’r elusen Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn mynd o nerth i nerth. Bydd yn braf gweld sut mae'r ardd yn datblygu dros y misoedd nesaf.