We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 Y gorffennol, y presennol a'r dyfodol

Y gorffennol, y presennol a'r dyfodol

Diocesan Logo 2025

Yr Esgob Dorrien yn myfyrio ar arwyddocâd logo newydd yr esgobaeth

Bydd y flwyddyn nesaf yn Flwyddyn Genhadaeth wedi'i hysbrydoli nid yn unig gan yr angen yr wyf yn ei adnabod yn yr esgobaeth hon, ond hefyd gan esiampl fy rhagflaenydd disglair yr Archesgob George Noakes.

Rwy'n siŵr bod llawer ohonoch yn cofio'r gwasanaeth a gynhaliwyd ym Mharc y Strade lle daeth pobl o bob rhan o'r esgobaeth i gyd-addoli ac i gael eu hysbrydoli gan waith yr Ysbryd Glân, fel y'i hadroddir yn Actau'r Apostolion. Ac rwy'n siŵr bod y rhai a oedd yno yn cofio'r teimlad o gariad a chymdeithas Gristnogol pan wnaethon ni rannu'r Sacrament Bendigaid gyda'n gilydd.

Fy ngobaith yw y gallwn ni nid yn unig ail-gipio’r ysbryd hwnnw o 1986 ond rhagori arno pan fyddwn yn ymgynnull ar Faes y Sioe yng Nghaerfyrddin ym mis Mai 2026. Dyfynnodd yr Esgob Noakes ym 1986 Dean Howell o Dyddewi a ddywedodd, 'angen mwyaf fy annwyl wlad a’m cenedl ar hyn o bryd yw adfywiad Cristnogol, trwy dywalltiad yr Ysbryd Glân!' Roedd hyn yn wir yn y 1880au, roedd yn wir yn y 1980au, ac mae'n dal i fod yn wir nawr yn yr 21ain ganrif. Rwy'n credu ein bod ar drothwy adfywiad, ond ni all ddigwydd heb ein hymrwymiad real iawn, neu heb waith yr Ysbryd Glân ym mhob un ohonom.

Roeddwn i eisiau logo newydd ar gyfer yr esgobaeth a oedd yn cyfeirio at y gorffennol ac eto’n edrych i'r dyfodol. Derbyniodd yr Esgob Cameron o Lanelwy, artist medrus iawn sydd wedi dylunio darnau arian ar gyfer y Bathdy Brenhinol, fy nghomisiwn yn garedig iawn, a chynhyrchu'r dyluniad a welwch nawr; dyluniad sy'n portreadu Dewi fel dyn hŷn a oedd mae’n siŵr yn myfyrio ar ei fywyd a'i gyflawniadau, gan adfyfyrio llawn cymaint am y pethau na lwyddodd i’w gwneud ag ar yr hyn a lwyddodd i’w gwneud. Mae'r golomen yn ein hatgoffa o bresenoldeb yr Ysbryd Glân ym mywyd Dewi. Mae'n ein hatgoffa ei fod wedi'i alw, yn union fel yr ydyn ni heddiw yn cael ein galw, i gerdded y llwybr y mae Iesu yn ei osod o'n blaenau. Ond, fel dyn hŷn, bu Dewi'n edrych i'r dyfodol, y tu hwnt i gyfnod ei fywyd ei hun. Gorchmynnodd ei ddilynwyr i fod yn llawen, i gadw'r ffydd ac i wneud y pethau bychain. Cymeradwyaf y geiriau hyn i chi - geiriau sy'n sôn am edrych ymlaen, sy'n amgylchynu'r ddelwedd ac yn ffurfio datganiad ein cenhadaeth; Llawenydd, Ffydd, Cenhadaeth, a gweddïaf y byddant yn eich ysbrydoli i weithredu, ac i garu'r Arglwydd yn anwylach.