Croesawu’r sêr!

Nid "Lights, Camera, Action" yw'r geiriau fyddech chi’n disgwyl eu clywed fel arfer mewn eglwys! Ond darllenwch ymlaen, meddai Caroline Evans
Yn y rhifyn hwn rydym yn taflu goleuni ar eglwysi, ac yn ein hannog i feddwl sut y gallwn ddefnyddio ein hadeiladau gwych fel lleoliadau ar gyfer cynyrchiadau ffilm, teledu a hysbysebu, a darparu cyfle ychwanegol i gynhyrchu incwm i’r plwyfi ar yr un pryd.
Mae’r cyfoeth o adeiladau hanesyddol a phensaernïol rhestredig hardd ac unigryw sydd gennym yn cynnig lleoliadau gwych i gwmnïau cynhyrchu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhai eglwysi yng Nghymru wedi cael eu defnyddio, er enghraifft Eglwys Sant Cattwg, Llanmaes, a ddefnyddiwyd ar gyfer lleoliad priodas Gavin a Stacey yng nghyfres boblogaidd y BBC, a Chapel Sant Gofan, Bosherton, mewn sawl cynhyrchiad. Adroddodd Sant Cattwg iddynt gael llif cyson o ymwelwyr ar ôl i'r bennod gael ei darlledu. Cafwyd dau ddiwrnod o ffilmio yno ac roedd warden yr eglwys wedi caniatáu i’r cast a'r criw ddefnyddio ei gyfleusterau tŷ bach. Derbyniodd yr eglwys ffi am ganiatáu i'w lle gael ei ddefnyddio, ac roedd yn incwm gwerthfawr i'r plwyf.
Mae modd i eglwysi gofrestru er mwyn arddangos eu hadeiladau ar wefan Cymru Greadigol (https://www.cymrugreadigol.cymru/cy) sef asiantaeth datblygu economaidd Llywodraeth Cymru a gafodd ei sefydlu i gefnogi ein diwydiannau creadigol. Mae Cymru Greadigol wedi cynorthwyo miloedd o gynyrchiadau, o sioeau teledu poblogaidd fel Sex Education, Doctor Who a Sherlock i ffilmiau nodwedd mawr fel Harry Potter and the Deathly Hallows a Snow White and the Huntsman. Wrth baratoi i gofrestru, bydd angen glanhau a thacluso’n drylwyr, torri glaswellt, cael llawer o ffotograffau da, y tu allan a'r tu mewn, yn barod i'w llwytho i fyny, yn ogystal â gwybodaeth hanesyddol ac ymarferol. Mae lle parcio da yn ddefnyddiol iawn.
Mae rhai pethau pwysig i’w hystyried wrth weithio gyda chwmnïau cynhyrchu. Yn gyntaf, mae'n hanfodol deall telerau'r cytundeb, gan gynnwys hyd y ffilmio, y ffioedd dan sylw, ac unrhyw effaith bosibl ar weithgareddau'r eglwys. Hefyd gwiriwch gynnwys yr hyn y byddent yn ei ffilmio – dim cywestach na chythreuldeb! Dylai eglwysi sicrhau bod eu gofod yn cael ei ddiogelu, a gweithio gyda'r tîm cynhyrchu i sicrhau nad oes unrhyw ddifrod i’r adeilad. Wrth gynhyrchu ffilm, mae’r tîm yn aml yn gwerthfawrogi cywirdeb hanesyddol a lleoliadau unigryw, felly mae treftadaeth gyfoethog ein heglwysi niferus yn opsiwn deniadol. Cynghorir eglwysi i gysylltu â'r esgobaeth i gael cefnogaeth a chymeradwyaeth eu Harchddiacon, gan sicrhau bod contractau'n glir ac yn diogelu eu gofod sanctaidd. Mae'n gallu achosi tipyn o gyffro a gwaith ychwanegol i gefnogi criw ffilmio ond mae hefyd yn bleser.