Proffil Ordeinio: Josephine Dean

Cefais fy ngeni yn Surrey, a symudais i Gymru pan oeddwn i'n 9 oed a chael fy magu ar fferm y teulu yng Ngheredigion. Yn fy ugeiniau gweithiais dramor fel nani ym Mharis cyn dychwelyd adref a chwrdd â’m gŵr, Mike.
Fe symudon ni i Swydd Derby am rai blynyddoedd lle cafodd ein dau blentyn eu geni cyn dychwelyd i Gymru i fod yn nes at ein teuluoedd. Dychwelais i addysg amser llawn yn fy nhridegau, gan gwblhau fy ngradd mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant. Yn union cyn cael fy nerbyn ar gyfer hyfforddiant yn y weinidogaeth, roeddwn i’n gweithio ym Manc Bwyd Caerfyrddin ac yn cael profiad o achosion sylfaenol tlodi bwyd yn yr ardal.
Wedi fy magu yn yr Eglwys Anglicanaidd, mae fy mherthynas â Duw bob amser wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd ond roedd genedigaeth fy mhlant yn sbardun i mi archwilio fy ffydd a'm galwad i weinidogaeth yn ehangach.
Ar ben hynny, mae fy mhrofiadau o fynychu'r eglwys gyda phlant ifanc wedi tanio ynof angerdd am weinidogaeth sy'n hygyrch ac yn gefnogol i’r amrywiaeth o deuluoedd yn ein cymunedau, tra hefyd yn cofleidio'r potensial sydd gan hyn i'w croesawu i deulu Crist.
Fy nymuniad pennaf yw'r cyfle i gerdded ochr yn ochr â phlant a'u teuluoedd ar eu teithiau ffydd eu hunain gan helpu i'w meithrin a'u cynnal fel disgyblion. Fodd bynnag, fel merch i ffermwr, rydw i hefyd yn ymrwymedig i bwysigrwydd gweinidogaeth wledig ac edrychaf ymlaen at allu datblygu'r ochr hon o’m gweinidogaeth ymhellach.
Rwy'n mwynhau darllen, cerdded gyda fy nghi, darganfod cefn gwlad a threulio amser gyda’m gŵr Mike a’n plant, Jemima a Jack.