Gem Fach

Eglwys Sant Womar, Mynwar, Sir Benfro
Gem fach o eglwys sy’n aros i gael ei darganfod, yn ôl Caroline Evans
Gyda misoedd yr haf ar y gorwel, bydd yr A40 yn brysur iawn, er gwaethaf agor y gwelliant i ran ohoni’n ddiweddar. Ond gallwch gysuro’ch hun wrth feddwl bod eglwys fach gerllaw yn swatio mewn man tawel a heddychlon, yn gyforiog o hanes cyfoethog, yn aros i chi ei darganfod. I'r de-orllewin o Arberth, ac yn edrych dros ddwyrain Afon Cleddau, mae eglwys fach Sant Womar ym Mynwar, eglwys restredig Gradd II o darddiad Normanaidd sy'n gysylltiedig â Chomandy Slebets, ac sydd, er gwaethaf gwaith adfer sylweddol yn bennaf yn y 19eg ganrif, yn parhau'n lleoliad sydd â chladdgell fechan a bedyddfaen a thŵr diddorol.
Mae'n debyg bod yr eglwys yn dyddio o'r adeg pan gafodd ei rhoi gan Robert, mab Lomer, i Farchogion Ysbytai Urdd Sant Ioan o Jerwsalem yn Slebets, ym 1150. Roedd gan yr Urdd hefyd sefydliad pwysig gerllaw o'r enw Tŷ'r Chwiorydd [dim ond adfeilion sydd yno bellach]. Ymddengys bod bwa cangell crwn isel yr eglwys yn dyddio i oes y Normaniaid ac mae'n awgrymu bod yr eglwys yn ôl pob tebyg yn cynnwys corff a changell yn wreiddiol. Mae'n ymddangos mai'r drws deheuol hefyd yw'r drws gwreiddiol. Ym 1540 cafodd yr urdd ei daflu allan gan Frenin Harri VIII wrth ddiddymu'r Mynachlogydd, fe'i gwerthwyd i deulu Barlow o Slebets, ac erbyn 1850 roedd y pentref wedi diflannu, gan adael dim ond yr eglwys a phentrefan ffermio.
Daeth sgandal twyll i'r amlwg yn y cyfnod Fictoraidd gyda’r Barwn de Rutzen o Slebets yn glanio mewn dyfroedd dyfnion gydag Esgob Tyddewi ym 1861 pan honnwyd ei fod yn gyfrifol am led-ddinistrio eglwys Sant Womar ym Mynwar ym 1844. Hefyd ym 1843, roedd wedi benthyg £600 gan Gomisiynwyr Benthyciadau'r Eglwys ar gyfer eglwys newydd ym Mynwar ond gwariodd yr arian ar adeiladu ei eglwys newydd yn Slebets [sydd bellach yn adfeilion]. Mae’n amlwg iddyn nhw ddod i ddeall ei gilydd, gyda’r Esgob yn aros yn Neuadd Slebets ar achlysur cysegru'r Eglwys "newydd" ym 1848. Cafodd y bedyddfaen [yn y llun] ei adfer o fuarth y fferm.
Mae'r stori yn cael ei harddangos y tu mewn i'r eglwys ar badlau ac mae'r tu mewn hyfryd yn sicr yn lle i enaid gael llonydd – sy’n dipyn gwahanol i sut yr oedd hi yma yn oes marchogion y rhyfelgyrchoedd a'u brwydrau enwog a'u clogynnau croes wen. Mae'r eglwys ar agor i ymwelwyr.
Cod post: SA67 8BJ;
What3words: airports, scatters, throat.
Gwybodaeth gan y Parchg R M Moore, Offeiriad â Gofal; 07758 370624; robertmoore@cinw.org.uk