Dysgu caru gwaddod!
Harriet Carty, o Gofalu am Erw Duw, sy’n dathlu ffrind bach adnabyddus ond dirgel yn ein mynwentydd
Anaml iawn, os o gwbl, y bydd unrhyw un ohonom yn gweld gwahadden. Serch hynny, rydyn ni’n gweld arwyddion ohonyn nhw, eu twmpathau. Mae gwaddod yn bridio yn y gwanwyn, rhwng Chwefror a Mehefin a dyma'r adeg pan welwn ni dwmpathau newydd sydd wedi'u cloddio gan waddod gwryw sy’n ceisio ehangu eu rhwydwaith o dwneli wrth chwilio am gymar benywaidd. Maen nhw hefyd yn creu nythod sfferig y maen nhw’n eu leinio â dail sych a glaswellt a bydd y gwaddod yn cysgu yn y nythod hyn yn ogystal â magu gwaddod bach yno.
![Mole [ahmad-kanbar-unsplash]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Mole_ahmad-kanbar-unsplash.width-500.jpg)
Mae gwaddod gwrywaidd a benywaidd yn treulio'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ar eu pennau eu hunain, yn byw o dan y ddaear ac yn synhwyro eu ffordd o amgylch eu rhwydwaith o dwneli gan ddefnyddio eu trwynau sensitif a hefyd eu cynffonnau. Mae ganddyn nhw olwg wael ac maen nhw’n agored i ysglyfaethwyr pan fyddan nhw uwchben y ddaear. Ond o dan y ddaear maen nhw yn eu helfen, gan ddefnyddio’u coesau blaen mawr, tebyg i rawiau, i ehangu'r rhwydwaith yn ôl yr angen. Mae'r rhan fwyaf o'r twneli yn barhaol ac yn eithaf dwfn, ac yn cwmpasu cannoedd o fetrau ac yn para am sawl cenhedlaeth. Mae gwaddod yn greaduriaid tiriogaethol iawn, sy’n gyfarwydd â'u twneli eu hunain ac yn eu defnyddio yn unol â’r tymor. Mewn tywydd oerach neu sychach maen nhw’n anelu am eu twneli dyfnaf lle y gellir dod o hyd i’w prif fwyd, sef mwydod.
Mae gwaddod yn creu man i gadw bwyd at y gaeaf trwy storio mwydod mewn siambr, gan eu cadw'n fyw ond eu rhwystro rhag symud gyda brathiad i'r segment pen. Mae hyd at 450 o fwydod wedi'u darganfod mewn un siambr.
Roedden nhw'n arfer cael eu lladd mewn niferoedd mawr gan drapwyr er mwyn gwneud dillad croen gwahadden ac fe'u hystyriwyd fel problem yr oedd angen ei rheoli. Mewn gwirionedd, mae gwaddod yn ffrind ac yn elyn – ffrind am eu bod nhw’n bwyta llawer o blâu fel llyngyr y stumog, gwlithod a malwod a hefyd yn awyru'r pridd gyda'u twneli; gelyn am eu bod yn creu twmpathau y mae rhai yn eu gweld fel problem.
Ond efallai na fydd cael gwared ar eich gwahadden breswyl yn syniad da oherwydd fe allai hynny roi cyfle i wahadden arall symud i’r diriogaeth. Efallai y byddai'n well dysgu byw gyda'ch gwahadden a gwasgu’r twmpathau yn ôl i'r ddaear neu symud y pridd i welyau blodau neu botiau planhigion. Mae'r ddaear noeth maen nhw'n ei gynhyrchu hefyd yn gwneud lle i hadau blodau gwyllt egino, ac efallai na fydd hynny’n digwydd mewn glaswellt sy’n dynn. Felly ar y cyfan, mae gwaddod yn ychwanegu at yr amrywiaeth gyfoethog o fywyd a geir yn ein mynwentydd ac mae angen i ni ddysgu eu caru!
www.caringforgodsacre.org.uk - mae unigolion a grwpiau yn yr esgobaeth yn derbyn gostyngiad o 20% i aelodau ar holl ddeunyddiau Gofal am Erw Duw. Defnyddiwch y cod disgownt diomem22