Da chi, ymunwch â ni

Mae Glenys Payne, Llywydd Undeb y Mamau yn Nhyddewi, yn edrych ymlaen at
flwyddyn gyffrous yr Undeb yn 150 oed
Yn Undeb y Mamau, rydyn ni’n gweithredu fel dwylo, traed a chalon Duw ym myd Duw, gan estyn allan i gefnogi’r rhai sydd angen ein help fwyaf.
Ysbrydolwyd Mary Sumner i sefydlu’r grwpiau Undeb y Mamau cyntaf ym 1876 a hyd yma mae pedair miliwn o aelodau ledled y byd yn gweithio i gefnogi pobl o bob ffydd a phobl ddi-ffydd mewn 83 o wledydd, gan hyrwyddo bywyd teuluol sefydlog ac amddiffyniad plant trwy weddïo, galluogi ac ymgyrchu.
Wrth i ni baratoi ar gyfer ein 150 mlwyddiant yn 2026, mae’r llwybr o’n blaenau yn parhau i fod yn ansicr - mae gan bobl lawer o alwadau ar eu hamser, ac rydyn ni’n gwybod fod yr aelodaeth yma yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn araf ers dros 30 mlynedd.
Gallem yn hawdd dderbyn bod yna ddirywiad parhaus wedi bod, ond mae’r materion a yrrodd Mary Sumner i weithredu 150 mlynedd yn ôl yn parhau i fod mor real ag erioed. Mae llawer o rieni yn dal i gael trafferth darparu ar gyfer eu teuluoedd a’u magu; mae anghyfiawnder rhywedd yn parhau i fod yn broblem fawr ac mae gormod o bobl yn gorfod gadael eu cartrefi ac ailadeiladu eu bywydau mewn mannau eraill.
Mae cymaint o brosiectau ledled y byd ac maen nhw’n wahanol ym mhob gwlad, ym mhob esgobaeth, ym mhob archddiaconiaeth, ym mhob Ardal Gweinidogaeth Leol ac ym mhob cangen. Yn ein hesgobaeth ni yn unig, mae ein prosiectau’n cynnwys gweithio gyda phrosiect Bwndel Babi Plant Dewi, darparu eitemau wedi’u gwau a thaclau ymolchi i bobl sy’n teithio ar y môr, ac mae llawer o ganghennau yn rhan o’r prosiect Y Groes yn fy mhoced a rennir trwy’r ysbytai.
Mae’r cynllun Away From It All yn un o’n prosiectau mwyaf hirhoedlog, sy’n cefnogi teuluoedd trwy ddarparu gwyliau a theithiau, gan gynnig seibiant mawr ei angen i’r rhai na allan nhw fforddio cael hoe neu fynd ar daith neu wyliau oherwydd amgylchiadau anodd.
Da chi, ymunwch â ni – dyna ein thema ar gyfer eleni. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â www.mothersunion.org; e-bostiwch stdavidsmu@googlemail.com neu dilynwch ni ar Facebook – Undeb y Mamau Esgobaeth Tyddewi.