Corff Llywodraethol

Melanie Prince yn adrodd ar gyfarfod y Gwanwyn.
Cyfarfu'r Corff Llywodraethol dan haul braf Llandudno ar 30 Ebrill a 1 Mai 2025. Dechreuodd y digwyddiad gydag ewcharist yn Eglwys y Drindod Sanctaidd lle croesawyd yr Archesgob Mark O'Toole o'r Eglwys Gatholig i gyflwyno pregeth i ni. Dyma'r tro cyntaf i offeiriad Catholig annerch aelodau'r Corff Llywodraethol, a siaradodd yn gynnes am bwysigrwydd gweithio gyda'n gilydd yn eciwmenaidd.
Dechreuodd y cyfarfod busnes gydag Anerchiad y Llywydd gan yr Archesgob. Gwahoddodd yr aelodau ar daith trwy Geredigion hardd at y garreg eiconig Cofiwch Dryweryn a'r alwad sydd arni i "beidio ag anghofio pwy ydyn ni".
Myfyriodd ar y modd y mae ein cenedl wedi'i llunio, sut mae'n parhau i newid a'r ffyrdd y mae'r Eglwys wedi teithio a newid hefyd. Gwahoddodd yr Eglwys yng Nghymru i ymateb i heriau newydd y dydd drwy ddod yn Eglwys fwy proffesiynol, sylfaenol, tosturiol, cysylltiedig a chreadigol.
Derbyniwyd yr adroddiadau arferol gan gynnwys un ar y Gymuned Ddysgu Esgobaethol a diweddariad ar y Gronfa Twf.
Yr eitem lle cafwyd y drafodaeth fwyaf oedd Cynnig Aelodau Preifat a gyflwynwyd gan Archddiacon Llandaf i newid hyd tymhorau swydd aelodau Cynghorau Ardaloedd Gweinidogaeth o un flwyddyn i dair, ac i gychwyn trefn lle mae traean o Gyngor Ardal Gweinidogaeth yn sefyll i lawr bob blwyddyn. Cyflwynwyd gwelliant a phleidleisiwyd arno, ond yn y diwedd pasiwyd y cynnig.
Cafwyd anerchiad gan Dr Monica Attias o Gymuned Sant'Egidio yn sôn am waith yr elusen a chafwyd casgliad i gefnogi'r gwaith.
Mae Sant'Egidio yn gymuned Gristnogol a gychwynnwyd ym 1968 mewn ysgol uwchradd yn Rhufain. Heddiw, mae wedi dod yn rhwydwaith o gymunedau mewn mwy na 70 o wledydd ledled y byd. Mae'r Gymuned yn rhoi sylw i’r ymylon a phobl ar yr ymylon, gan gasglu ynghyd dynion a menywod o bob oed a chyflwr, yn unedig gan gysylltiad brawdol trwy wrando ar yr Efengyl ac ymrwymiad gwirfoddol a rhydd i’r tlodion ac i heddwch.