Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 Enwrogrwydd o'r Diwedd! (Rhan 2)

Enwrogrwydd o'r Diwedd! (Rhan 2)

Rasalama [Madagascar martyr]

Theresa Haine sy’n cloi ei hanes dwy ran o'r dathliadau i nodi pen-blwydd merthyrdod Rasalama, y genhades Falagasaidd gyntaf.

Am 10am ar ei ben, clywsom y band yn dechrau canu y tu allan a thyrrodd holl gynrychiolwyr y llywodraeth i mewn. Yna, yn olaf oll, yr Arlywydd a'i warchodlu. Parhaodd y gwasanaeth am dair awr lawn ond roedd wedi'i gynllunio'n dda ac yn ddiddorol. Fe wnes i lwyddo i draddodi fy araith (yn Malagasi) heb ormod o betruso. Doedd araith yr Arlywydd ddim yr hyn roedden ni i gyd yn ei ddisgwyl. Awgrymodd fod y cenhadon yn asiantau dros rym tramor a bod cyfiawnhad i weithredoedd y Frenhines wrth erlid y Cristnogion - roedd hi'n gwneud yr hyn y credai oedd yn iawn ar gyfer yr holl bobl. Fodd bynnag, canmolodd Rasalama am ei ffydd a'i dewrder.

Ar ddiwedd y gwasanaeth canodd corau torfol Gorws yr Haleliwia o Meseia Handel. Roedd sawl arweinydd yn dilyn curiad arweinydd y gerddorfa a oedd allan o olwg y rhan fwyaf o'r cantorion. Er gwaethaf eu hymdrechion, collodd un pen o'r côr enfawr, tua 1,000 o leisiau, y curiad gyda'r gweddill am sawl munud pryderus ond llwyddodd pawb i ddod o hyd i'w gilydd (a'r arweinwyr ffyrnig erbyn hyn) cyn yr Haleliwia buddugoliaethus terfynol!

Unwaith roedden ni y tu allan i'r stadiwm cawsom ein hamgylchynu gan gardotwyr. Rhoddais fy nghardigan i wraig dlawd a charpiog gyda babi bach noeth a phlentyn bach yn hongian ar ei sgert. Roedd cymaint o gardotiaid, roedd hi’n hynod anodd iawn gadael.

Cafwyd swper ffurfiol gyda'r nos, gyda’r pryd blasus a'r hwyliau da yn ddiweddglo cofiadwy i ddiwrnod cofiadwy. Roedd gan y bwyty deledu lliw a buom i gyd yn gwylio ein hunain ar y bocs – y tro cyntaf i mi fod ar y teledu.

Y bore canlynol, ychydig ddyddiau cyn i mi ddychwelyd i'r DU, dilynodd menyw dlawd gyda phlentyn bach a babi noeth dau fis oed fi i fyny 400 o risiau o'r farchnad, i lawr ochr arall y bryn i gartref fy ffrindiau ac yn ôl i fyny'r bryn eto. Rydw i bron yn sicr mai dyma’r fenyw roeddwn i wedi rhoi fy nghardigan iddi'r diwrnod blaenorol. Dywedais wrthi nad oedd gen i fwy o ddillad nac arian i'w roi - a oedd yn wir gan mai dim ond digon oedd gen i ar gyfer treth y maes awyr ac roedd fy nillad i gyd wedi'u pacio. Yna plediodd gyda mi i fynd â'i babi dramor gyda mi gan fod ei dad wedi diflannu ac na allai fforddio i’w gadw. Torrodd fy nghalon, ond yn y diwedd bu'n rhaid i mi fynd â hi at ffrind a oedd yn weithiwr cymdeithasol yn y gobaith y byddai'n gwybod sut i'w helpu. Yn anffodus, dydw i ddim yn gwybod beth oedd diwedd y stori.