Penblwydd elusen Dolen Cymru yn 40 oed!
Mae Cymru a Lesotho newydd ddathlu perthynas arbennig ac unigryw. Deugain mlynedd nôl, ar y 12fed o Fawrth, 1985, sefydlwyd Dolen Cymru mewn cynhadledd i'r wasg yn y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd. Mewn neuadd fawr a addurnwyd â baneri Cymru a Lesotho, i seiniau corau o blant ysgol Caerdydd yn canu yn Gymraeg a’r gwesteion yn canu yn Sesotho ac yn dawnsio, croesawyd Uchel Gomisiynydd Lesotho, Ntate O.T.Sefako, yn ei wisg draddodiadol, gan Dr Carl Clowes, Cadeirydd cyntaf y Ddolen. Ac felly gwireddwyd y freuddwyd o sefydlu gwlad yn efaill i Gymru!

Yn 2005 ces i wahoddiad gan Dr Mary Thorley i fod yn aelod o dÎm o ddarlithwyr dan ei harweiniad hi o adran addysg Coleg y Drindod, Caerfyrddin, i deithio i Lesotho gyda’r bwriad o wneud cysylltiadau gyda choleg addysg a phrifysgol yno (Lesotho College of Education a’r National University of Lesotho.) Wel, doedd dim angen meddwl dwywaith! Am gyfle!
Mynd ati yn syth i greu adnoddau, gan ein bod i gyflwyno gweithgareddau i ysgolion cynradd gwledig yn Lesotho yn ystod ein hymweliad, Sue Ainsworth yn paratoi rhai Llythrennedd a minnau rhai Mathemateg. Y cyffro o hedfan i Johannesburg ac yna mlaen i Maseru, prifddinas Lesotho, a theimlo wrth lanio yn Maseru fy mod nol ‘adre’! Ac wedi bod nôl 17 o weithiau!
Ychydig fisoedd ar ôl yr ymweliad cyntaf, ym mis Ionawr 2006, gan adael y teulu ac ymfudo gyda 5 o athrawon eraill i dref Hlotse yn Leribe am 6 mis. Dysgu Mathemateg a Saesneg oeddwn i, yn Ysgol Uwchradd Hlotse. Cynnal cyrsiau i athrawon cynradd ar draws y wlad , a thrwy gefnogaeth Coleg y Drindod llwyddwyd i fewnforio 25 o flychau adnoddau Mathemateg i ysgolion cynradd, sydd dal yn ddefnyddiol ugain mlynedd yn ddiweddarach, fel y gwelais yno yn ddiweddar!
Trwy Ddolen Cymru cawn gyfle i groesawu disgyblion, athrawon a darlithwyr o Lesotho i Gymru yn gyson, gyda chant efallai wedi ymweld â Chydweli, Caerfyrddin, a Llanelli ers 2022. Yn 2010 daeth pedwar i Goleg y Drindod,i wneud ymarfer dysgu. Eleni aeth 14 o ddisgyblion ac athrawon o Ysgol Bro Preseli, drwy drefniant ‘Taith’, i Hlotse (lle bues i’n dysgu 20 mlynedd nôl), a chawsant groeso arbennig gan rai o’m hen ffrindiau yno! Mawr yw’r disgwyl i’w ffrindiau newydd ymweld â’r Preseli nes ymlaen yn yr haf
Fe gyfoethogwyd fy mywyd yn fwy na allaf ddweud drwy fy mhrofiadau gyda Dolen Cymru