Cloddio am Hanes
Mae Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi defnyddio grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gynnal prosiect cymunedol blwyddyn o hyd yn archwilio hanes Aberystwyth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyma adroddiad Sian Nicholas
Mae gan randiroedd yn ystod y rhyfel draddodiad hir yn Aberystwyth, gyda'r caeau o amgylch y Llyfrgell Genedlaethol, er enghraifft, wedi'u troi'n lleiniau tyfu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ac roedden ni’n hynod ffodus pan gynigiodd Ffermydd y Brifysgol gae heb ei ddatblygu gerllaw i ni. Er ei fod yn frawychus i ddechrau – wedi'i orchuddio gan fieri, danadl a chwningod – fe wnaethom ni sylweddoli’n fuan iawn botensial y safle hwn ar gyfer arbrawf dan arweiniad gwirfoddolwyr mewn hanes byw.
Yn anffodus, roedd ein dyddiad cychwyn yn cyd-daro â chyfnod clo Covid, ac roedd angen ailystyried ein holl weithgareddau dan do arfaethedig ar frys. Fodd bynnag, os nad oedd modd i ni Wneud-y-Tro-a-Thrwsio, tybed fydden ni’n gallu Cloddio am Fuddugoliaeth?
Felly, yn gynnar yn 2021, fe wnaethom ni lansio gardd rhandiroedd AberWW2, wedi'i modelu ar daflen y Weinyddiaeth Amaeth ym 1942 yn cyfarwyddo deiliaid tai sut i droi eu gerddi cefn yn lleiniau llysiau drwy gydol y flwyddyn. Roedd angen addasu rhywfaint – roedd garddwyr yn ystod y rhyfel, yn ôl pob tebyg, yn chwistrellwyr cemegion brwd, ac mae’r rhan fwyaf o’r cemegion hynny bellach yn anghyfreithlon – er roedd hi’n braf gweld bod cymaint o’r hen amrywogaethau o hadau ar gael o hyd. Rydyn ni’n tyfu'n organig, gan gadw at yr hen draddodiad llym o hau mewn rhesi, ond rydyn ni’n ychwanegu planhigion cydymaith fel capanau cornicyll a melyn Mair i ddarparu lliw a denu pryfed. Does dim lle gennym i storio ein cnydau, felly rydyn ni'n rhoi ein llysiau dros ben i fanciau bwyd lleol.


A ninnau bellach yn ein pedwaredd flwyddyn, prin y gellir adnabod gardd AberWW2 o'i dyddiau cynnar, gyda’i chwt offer wedi'i stocio'n dda, tanc dŵr a ffens i atal cwningod (sydd ei hangen yn fawr!) (a ddarparwyd, gyda diolch, gan Tyfu Dyfi). Cawsom gymorth gwerthfawr gan Ysgol Gatholig Sant Padarn, Ysgol Gynradd Plascrug, a'n grŵp garddio newydd yn Ysgol Penglais. Rydyn ni’n parhau i ddatblygu ein prosiect Hanes Byw, gyda pherllan ffrwythau treftadaeth ac (mewn cydweithrediad â Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aber) llain newydd o ŷd, pwmpenni a ffa; rydym ni’n gobeithio plannu gardd perlysiau canoloesol rhyw ddydd. Yn anad dim, rydyn ni’n dibynnu ar wirfoddolwyr brwdfrydig sy'n dod wythnos ar ôl wythnos i chwynnu, cloddio, plannu a chynaeafu, heb unrhyw wobr heblaw am y llysiau maen nhw'n mynd adref gyda nhw. Yn y cyfamser mae gwerth ein harbrawf cychwynnol wedi ehangu ymhell y tu hwnt i'r hanesyddol: cyfle i weithio ar y cyd, i wylio'r tymhorau’n newid, ac i fwynhau'r ymdeimlad o gyflawniad a lles sy'n dod gyda thyfu tymhorol.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â mi: shn@aber.ac.uk.