Dyddiadur gwraig person
![Polly [Atlantic Crossing - June 25]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/diary_parsons_wife_5dSTxZg.width-500.jpg)
Penderfyniadau, penderfyniadau
Polly Zipperlen sy’n ystyried rhesymegol v synhwyrol
“Am daith!" – dyna ddywedais i ar y cyfryngau cymdeithasol wrth gyrraedd Antigua ar ôl 53 diwrnod, 12 awr ac 1 munud yn rhwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd. Ac roedd yn bendant yn daith gyffrous gydag ambell eiliad o arswyd wrth i'r cwch wegian mewn tonnau chwerthinllyd o fawr a gwyllt.
Fe wnaeth ein tîm o bedair menyw oroesi a ffynnu fel y mae menywod yn aml yn ei wneud yn wyneb adfyd, gan aros yn wydn ac yn garedig i'w gilydd, gyda'r chwistrelliad od o hiwmor i roi hwb i forâl. Roedd llawer o'r llawenydd ar y bwrdd yn cynnwys rhywfaint o bryfocio ysgafn. Er enghraifft, ein sgwrs ailadroddus ynghylch a allai ffordd benodol o weithredu fod yn gasgliad 'rhesymegol' i'n trafodaethau helaeth. Roeddem ni’n adnabyddus ymhlith y timau eraill am gynnal gormod o gyfarfodydd – byddem yn aelodau tan gamp o bwyllgorau eglwysig.
Byddai'r sgwrs yn gyffredinol yn mynd rhywbeth fel hyn:
“Wel, ai dyma'r ffordd resymegol o fynd ati?”
“Wel, oes angen i hynny fod yn wir? Dydy rhwyfo ar gefnfor am hwyl ddim yn rhesymegol iawn nacdi?”
“Ie, ond ydy e’n rhesymegol?”
“Ond dydy bodau dynol ddim yn rhesymegol”
“Ond dydy e ddim yn synhwyrol”
“Wel, dydy rhwyfo ar gefnfor am hwyl ddim yn synhwyrol”
Ar y pwynt hwnnw byddem wedyn yn trafod ein syniadau gyda'r criwiau eraill, trefnwyr y digwyddiad ac unrhyw un arall o fewn cyrraedd. Yn amlach na pheidio, byddai'r penderfyniad terfynol yn cael ei ohirio tan ryw ddiwrnod arall!
A dyma sut y cefais fy hun, dril mewn llaw, ar y doc wrth ymyl ein cwch, 30 munud cyn gadael o flaen torf o 200 o wylwyr. Dydw i ddim wedi arfer defnyddio offer pŵer, ar wahân i fy annwyl Magimix. Felly roedd bod yn gyfrifol am ddrilio tyllau i'r cyffiau plastig ar y rhwyfau, i nodwyddo laniard trwyddyn nhw i gysylltu'r rhwyfau i'r gatiau, gan leihau'r risg o golli rhwyf yn y môr mawr, braidd yn frawychus – a bendant ddim yn synhwyrol. Ond dyna lle'r oeddwn i.
Beth petai ebill y dril wedi torri, beth petai’r cyffen blastig yn hollti, beth os byddwn i'n syrthio yn y dŵr o flaen pawb? O pam nad oeddwn i wedi gofyn i Marcus wneud hyn neu wedi ei wneud cyn y diwrnod roedden ni'n ymadael?! I goroni'r cyfan, roedd drôn yn ffilmio fy ymdrechion a chyflwynydd radio lleol yn edrych arna i'n chwilfrydig, yn awyddus i wybod i ba gyfeiriad y byddem yn mynd allan o Lanzarote. Wnes i bwyntio'n fras i'r de-orllewin a chodi fy ysgwyddau. Gan feddwl yn dawel i mi fy hun "'dydy rhwyfo ar y môr am hwyl ddim yn synhwyrol nac yn rhesymegol”. Ond roedd yn bendant yn hwyl!