Eglwys Sant Marc, Cwmcoch

Y Canon John Gravell, y cyn-ficer, a Gill Evans, y warden, sy’n adrodd hanes yr eglwys fach ger Llandybie, a gaeodd ei drysau am y tro olaf yn ddiweddar
Ymateb y Parch.Rees Evans, Ficer Llandybie (1861-1877) i dwf y boblogaeth yn ei blwyf, pan agorwyd y pyllau glo yno, oedd sefydlu ysgoldy yng Nghaerbryn. Mewn cydweithrediad â’r ddwy Miss Prothero o Blas Cwmcoch, fe agorwyd Ystafell Genhadol Cwmcoch. Trwyddedwyd hon gan yr yr Esgob Basil Jones ar Ragfyr 17eg, 1875.
Lleygwyr duwiol, hyddysg yn yr Ysgrythurau oedd yr arweinwyr. Hwy fu’n gyfrifol am ffyniant yr achos, ac fe ddaeth Ysgoldy Cwmcoch yn ganolfan i aelodau o bob enwad yn y gymuned.
Un o’r lleygwyr mwyaf nodedig yno, a gofir o hyd, oedd John Roberts, Tireynon. Y mae stori hyfryd am y diweddar Ganon Winzey Rchards am ddechreuad ei guradiaeth yn Llandybie – cyn ei ymweliad cyntaf â Cwmcoch, meddai’r ficer wrtho ‘Ni fydd eisiau i ti wneud na dweud dim, bydd y cyfan yn nwylo medrus John Tireynon’. Ac felly y bu, gyda’r hen batriach yn cyfeirio yn ei weddi at y curad newydd fel ‘ Y crwt sydd wedi cael ei ddanfon i’n plith’.
Cefais hanes y Te Cynhaeaf a’r parti Nadolig gan Miss Eleanor Williams, un o hen athrawesau yr Ysgoldy, oedd hefyd yn cynorthwyo ei mam, i ofalu am y lle. Gwasanaethai Eleanor ar fferm cyfagos, a dod adre at ei mam ar y penwythnos, i helpu gyda’r glanhau a’r darparu yn Cwmcoch.
Ond yn 1966 dechreuwyd ar waith Glo Brig yn 1966. Aeth nifer o gartrefi a ffermdai i grombil y tyllau mawr a agorwyd – gan gynnwys Ysgoldy Cwmcoch. Sicrhawyd safle newydd gerllaw Neuadd Lesiant Caerbryn, a dau gaban mewn maes parcio gerllaw oedd cartref y gymulleidfa . Ac fe fyddai eglwys, nid ysgoldy! Agorodd Esgob John Richards Eglwys Sant Marc Cwmcoch ar Fai 30ain 1967. Rhoddwyd y safle a’r adeilad gan y Bwrdd Glo, ond cyfrifoldeb yr aelodau oedd dodrefnu yr adeilad newydd, a bu eu hymateb yn hael iawn, fel y gwelwyd yn nhaflen y Gwasanaeth agoriadol.
Roedd dau wasanaeth bob Sul, ac Ysgol Sul, gyda gweithgarwch ieuenctid yn ystod yr wythnos. Lluniwyd yr adeilad fel y gellid ei ddefnyddio ar gyfer y sanctaidd a’r seciwlar, yn gyfoes ei weledigaeth.
Warden annwyl a hoffus trwy’r cyfnod newydd oedd Mr Lynn Chapman. Bu’n gwasanaethu, fel athro ysgol sul, yn llenwi bwlch pan na fydda gweinidogaethh ar gael. Yr oedd yn gefn a chyfaill i bob ficer.
Ein gweddi , gan feddwl am y gynulleidfa niferus a ddaeth ynghyd i’r gwasanaeth olaf ar Sul y Blodau, yw mae saib yw hwn, ac nid diwedd ar waith yr Arglwydd yng nghymundau Blaenau a Chaerbryn.