Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 Hanesion Plentyndod Ficerdy

Hanesion Plentyndod Ficerdy

Hobiau a diddordebau.

Eluned 2024

Rwyn dechrau gan ddweud beth NAD oedd o ddiddordeb i fi. Doeddwn i ddim yn hoff o chwaraeon, heblaw am wylio a chwarae dipyn bach o dennis. Doeddwn i ddim yn hoff o wnio na gwau, er bod fy mam a’m mamgu yn arbennig o dda . Fe gofiaf eistedd gyda fy ffrind Sylvia, Nymbar 3, yn gwneud ‘cross-stitch’ dibendraw yn yr ysgol un prynhawn bob wythnos. Mae sawl darn yn dal gyda fi, rhyw fag bach, darnau i roi ar ford, defnydd glas gyda thyllau’n barod am y pwythau. Rwyn siŵr bod eraill o’m oed yn cofio hynny hefyd. Roedd bag o ddefnydd cotwm gwyn gyda phob un,i gadw eu gwaith llaw ynddo, gyda llythrennau blaen eu henwau wedi gwnio ar y blaen. Wrth eistedd nesa at ein gilydd, roedd ein bagiau’n dweud SAD JEW! Sylvia Ann Davies a Jane Eluned Williams. Doniol!

Chronicles of a Vicarage Childhood [pic June 2025]

Mae plant yn mynd drwy wahanol gyfnodau o ddiddordeb mewn gwahanol bethau, a doeddwn i ddim gwahanol. Darllen oedd fy mhrif ddiddordeb, yn ogystal ag ysgrifennu cerddi, storiau a chadw dyddiadur, ond bu ambell un arall. Dechreuais gasglu darnau arian, ‘coins’ ac wrth fy modd i ddysgu bod y gair ‘Numismatics’ yn ei ddisgrifio. Roedd ficer Pontiets ar y pryd, Parch Alex Clark, yn ddigon caredig i roi arweiniad a gwybodaeth i mi,yn ogystal ag ambell ddarn arian, gan ei fod ef, fel finnau, yn numismatist! Roedden nhw gyda fi tan yn ddiweddar.

Er nad oeddwn yn berson doliau, bydde pobl yn rhoi doliau o wledydd eraill i ni, yn enwedig fy Mamgu, Treforys, oedd yn mynd ar wyliau egsotig i’r Cyfandir ar y trên yn rhad ac am ddim gan fod Tadcu Treforys yn gweithio ar y rheilffordd. Doedd dim llawer o ddiben iddyn nhw, mewn bocs plastig, ac yn rhy oeraidd i chwarae â nhw.

Roedd creu llyfrau lloffion, scrap books, yn gyffredin iawn yn y 50au a 60au. Byddem yn cadw rhaglenni cyngherddau, taflenni ymweliadau ar ein gwyliau neu gyda’r ysgol, a’u gludo’n ofalus.. Roedd fy mam yn derbyn ‘Woman’s Weekly’ a byddai hi’n ceisio hybu ein diddordeb mewn barddoniaeth Saesneg drwy dorri allan darnau o’r cylchgrawn i’w gludo.

Byddwch yn synnu darllen mod i ar un pryd wedi dechrau ‘scrapbook’ y teulu brenhinol, ond, er bod yr un arall yn dal gyda fi, fyddwch chi DDIM yn synnu nad yw’r llall, ac fe ddiflannodd hanes y frenhinaeth o’n tŷ ni!