Y Dioddefaint, Heddwch a Phererindod
Sophie Whitmarsh sy’n myfyrio ar y Flwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd hyd yn hyn, ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.
Ym mis Ebrill croesawodd yr esgobaeth gwmni theatr LAMPS a fu'n perfformio ei gynhyrchiad o'r Dioddefaint yn Rhydaman, Hakin ac Aberystwyth. Roedd dros 50 o westeion ym mhob perfformiad, cyfanswm o bron i 160 o bobl. Roedd yr ymateb cyffredinol yn gadarnhaol ac mae'r diddordeb wedi bod yn galonogol.
Ym mis Mai, cynhaliodd tîm ymroddedig o glerigion a gwirfoddolwyr ddau ddiwrnod llawn o weithgareddau yn Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth ac yn Eglwys y Santes Fair, Dinbych-y-pysgod. Teithiodd dros 270 o blant o ysgolion ledled yr esgobaeth i'r digwyddiadau hyn. Thema'r ŵyl eleni oedd "Heddwch". Roedd y gweithgareddau a gynigiwyd wedi'u cynllunio i ysbrydoli creadigrwydd a myfyrio.
Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd y "corwyntoedd mewn poteli" cyfareddol lle gallai plant greu eu corwyntoedd bach eu hunain, a'r grefft gain o wneud craeniau heddwch, sy'n symbol o obaith a chytgord. Yn ogystal, roedd y gweithgaredd collage Beth yw Heddwch? a oedd yn annog y plant i fynegi eu dealltwriaeth o heddwch trwy gelf. Roedd llwyddiant y digwyddiadau hyn yn amlwg ar wynebau hapus y plant wrth iddyn nhw ymgysylltu â'i gilydd ac â’r gweithgareddau. Roedd yn gyfle gwych ar gyfer dysgu, creadigrwydd, ac undod cymunedol.
![CYF Conference Poster [C]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/CYF_Conference_Poster_C_Ov4JgCP.width-500.png)
Wrth edrych ymlaen at weddill y flwyddyn, ar 14 Mehefin mae aelodau sefydliadau o’r sectorau ffydd, gwirfoddol a statudol yn dod at ei gilydd yng Ngholeg Sir Benfro i edrych ar sut y gallem weithio gyda'n gilydd er lles cenedlaethau ein dyfodol, gyda'r Gynhadledd newydd, Cenedlaethau'r Dyfodol: Heyrn yn y Tân.
Rhwng 4 ac 8 Awst byddwn yn gwneud ein ffordd i Dyddewi ar gyfer y Bererindod Ieuenctid Flynyddol – gellir archebu llefydd nawr. Mae'r Cynllun Angylion, a sefydlwyd i helpu pobl na allan nhw fforddio'r bererindod hefyd yn gweithio'n dda, gyda rhoddion yn dechrau cyrraedd, a hoffwn annog pobl i wneud rhodd os gallan nhw.
Bydd Gŵyl Rhyddid ar 30 Awst yn ddigwyddiad am ddim i bawb, a bydd yn gyfeillgar i blant, ieuenctid a theuluoedd. Gyda charnifal, offer chwarae gwynt, crefftau, peintio wynebau, drymio, addoli byw, Ffyliaid Sanctaidd a llawer mwy, mae'n argoeli’n ddigwyddiad llawn Ysbryd. Mewn cydweithrediad â Pure West Radio, the Sound of Wales a Get the Boys a Lift, rydyn ni’n disgwyl nifer fawr o bobl ac mae angen cefnogaeth ein holl eglwysi arnom i'w wneud yn ddiwrnod i’r brenin.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau yn www.stdavidscyf.org.uk