Bukavu
- Diweddaraf
Ar hyn o bryd, grwpiau o wrthryfelwyr sy’n rheoli ein rhanbarth ac maen nhw’n ein trin mewn ffordd greulon ac annynol. Mae gofal iechyd, dŵr glân a thrydan wedi mynd yn bethau moethus nad yw llawer yn gallu eu fforddio na’u cyrraedd. Mae plant yn gorfod rhoi'r gorau i'w haddysg, ac yn crwydro’r strydoedd heb obaith am ddyfodol gwell.
Bob dydd, mae ysbeilio, trais rhywiol a menywod a merched yn cael eu gadael yn sefyllfaoedd sy’n gyffredin i ni, ac mae hyn yn gorfodi rhai merched i droi at buteindra neu ladrata i oroesi. Mae newyn ar gynnydd, a phobl ddiniwed yn marw.
Mae'r sefyllfa'n ofnadwy, ac mae'r peryglon yn dwysau bob dydd. Yn y cyd-destun hwn, mae eich cefnogaeth yn chwa o awyr iach, yn ein hatgoffa nad ydym ar ein pen ein hunain. Mae eich gweddïau a'ch tosturi yn ein grymuso i barhau i obeithio ac ymdrechu am ddyfodol gwell. Gofynnaf yn garedig i chi barhau i weddïo drosom, gan weddïo am adfer heddwch, am fuddugoliaeth cyfiawnder a buddugoliaeth dynoliaeth dros farbariaeth. Boed i Dduw eich bendithio yn helaeth a theulu Cristnogol cyfan eglwys Living Hope am eich cariad a'ch cefnogaeth .
2. Bukavu dan warchae
Ein gohebydd sy’n disgrifio 100 Diwrnod o dawelwch, gwytnwch a gobaith yn ein Hesgobaeth Gydymaith Bukavu, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo
Mae bron i 100 diwrnod wedi pasio ers i ddinas Bukavu syrthio o dan reolaeth lluoedd gwrthryfelwyr. Mae'r feddiannaeth hir hon wedi dod â bywyd bob dydd bron i stop, gan effeithio'n ddifrifol ar sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Gan nad yw'r llywodraeth bellach â rheolaeth drostyn nhw, mae llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi cau i lawr yn gyfan gwbl, gan wneud gweithwyr yn ddi-waith dros dro. Mae banciau a sefydliadau microgyllid - sydd fel arfer yn ddibynnol ar y llywodraeth ganolog - yn parhau ar gau, gan olygu na all y boblogaeth gael gafael ar eu cynilion, gan atal pob trafodiad ariannol ffurfiol. Dim ond gwasanaethau bancio symudol sy'n dal i fod ar waith, ond gwasanaethau cyfyngedig a gynigir ganddyn nhw.
I fusnesau mawr, mae'r sefyllfa wedi creu amgylchedd o ansicrwydd a risg uchel. Tra bod rhai cwmnïau'n aros i'r gwrthdaro ddod i ben er mwyn ailddechrau eu gwaith, mae eraill yn ailagor yn ofalus, ond mae popeth wedi newid.
Mae sefydliadau anllywodraethol, hefyd, yn cael trafferth. Amharwyd ar eu cyllid, gyda llawer o gyfranwyr yn atal eu cefnogaeth hyd nes y bydd y sefyllfa wedi dechrau sefydlogi. Mae ansicrwydd mewn ardaloedd lle mae gwrthdaro yn parhau i rwystro gwaith dyngarol, wrth i adroddiadau o wrthdaro rhwng grwpiau arfog barhau.
Mae ymdrechion i adfer yr heddwch ar y gweill ar sawl lefel, gan gynnwys partneriaid lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Fodd bynnag, mewn cyd-destun sydd wedi’i lywio gan gystadleuaeth am adnoddau naturiol a buddiannau geostrategol byd-eang, mae’r ymdrech i sicrhau heddwch yn nwyrain Congo yn parhau i fod yn orchwyl cynyddol gymhleth.
Yn y cyfamser, mae'r boblogaeth yn dioddef yn sgil pwysau'r argyfwng hwn - yn economaidd, yn gymdeithasol, yn seicolegol ac yn ysbrydol. Mae pob diwrnod yn dod â beichiau newydd, ond mae pobl Bukavu yn parhau i ddangos gwytnwch rhyfeddol, gan ddal gafael ar eu gobaith hyd yn oed pan fo’n teimlo'n fregus.
Ar adeg o’r fath, rhaid wrth undod o'r newydd. Ni ddylid anwybyddu'r dioddefaint yn y rhan hon o'r byd. Rhaid rhoi llais i’r di-lais a chymryd camau i baratoi'r ffordd tuag at heddwch parhaol.
Yn union fel Gaza, Yemen, Wcráin a Sudan, mae Dwyrain Congo yn aros am heddwch - fel anialwch yn aros am law.