Diogelwch yn y clochdy
Mae tîm diogelu'r Eglwys yng Nghymru wedi paratoi hyfforddiant sy'n cael ei gyflwyno'n benodol ar gyfer canwyr clychau hen a newydd

Mae swyddogion hyfforddi Diogelu'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn gweithio i wella eu dealltwriaeth o ganu clychau ac i'r perwyl hwn maen nhw wedi bod yn cysylltu â phob un o'r pedair Urdd Canu Clychau yn y Dalaith yn ogystal â Chyngor Canolog Canwyr Clychau Eglwysi. Mae'r tîm wedi teilwra ei gynnwys hyfforddiant i'w wneud yn fwy perthnasol i gyd-destun canu clychau ac maen nhw'n gobeithio y bydd nifer sylweddol yn dilyn yr hyfforddiant.
Bydd tair sesiwn o Fodiwl B – Deall Diogelu yn yr Eglwys, a bydd pob un ohonyn nhw’n cael eu cynnal ar-lein trwy Zoom:
- 18 Mehefin 2025 – 10am-12pm
- 15 Gorffennaf 2025 – 6pm-8pm
- 6 Tachwedd 2025 – 2pm-4pm
I archebu lle, dilynwch y ddolen - Ffurflen Archebu Hyfforddiant Diogelu - Yr Eglwys yng Nghymru sydd ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â'ch Hyfforddwr Diogelu Esgobaethol a'ch Swyddog Ymgysylltu, Meleri Cray ar melericray@cinw.org.uk
Cam-drin – Adnabod. Ymateb. Cofnodi. Riportio.