Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 Gweledigaeth amgen

Gweledigaeth amgen

Un o ganlyniadau'r aflonyddwch yn Israel/Palesteina, Syria a Libanus yw bod ynys gymharol heddychlon a chroesawgar Cyprus wedi cael ei hailddarganfod fel mangre Gristnogol o ddiddordeb. John Holdsworth sy’n adrodd ar un achos o'r fath.

Mae grwpiau o bererinion yn gwneud eu ffordd i Gyprus gyda chymorth cwmnïau teithiau sy'n dra awyddus i ddod o hyd i syniadau am deithiau newydd. Mae digon yma iddyn nhw ei weld a'i brofi. Mae Cyprus, wrth gwrs, yn wlad Feiblaidd. Mae Actau 13 yn disgrifio sut y gwnaeth Paul a Barnabas eu ffordd ar draws yr ynys o Salamis i Paphos ond, y tu hwnt i hynny, mae cyfoeth o dreftadaeth Gristnogol i swyno grwpiau o ymwelwyr.

Mae Esgobaeth Ewrop yn un o'r rhai mwyaf newydd. Yn ddiweddar, daeth aelodau eu Cynllun Profiad o’r Weinidogaeth, grŵp sy'n cynnwys pobl dan 30 oed sy'n ceisio dirnad galwedigaeth, ar bererindod i Gyprus. Mae'n ddigwyddiad blynyddol sydd fel arfer yn ymweld ag Israel/Palesteina.

Fe'u denwyd nid yn unig gan y cysylltiad Beiblaidd ond gan yr amlygiad i Gristnogaeth Uniongred, sut mae hynny'n gweithredu ar ffurf yr Eglwys sefydledig yng Ngweriniaeth Cyprus, a beth mae hynny'n ei olygu o ran perthynas yr eglwys a'r wladwriaeth. Rhoddodd rhaniad gwleidyddol yr ynys yn dilyn digwyddiadau 1974 gyfle i’r pererinion fyfyrio am gymodi a deialog rhwng Cristnogaeth ac Islam. Mae'r Eglwys Anglicanaidd yn 'westai' yn y ddwy awdurdodaeth, ac roedd hynny'n darparu diddordeb ychwanegol.

Troodos Service

Ymwelodd y grŵp â'r eglwys lle claddwyd Sant Lasarus (yn y pen draw), yn ogystal â bedd Barnabas. Bu'r grŵp hefyd yn ymweld â rhai o'r eglwysi peintiedig sydd wedi’u dynodi gan UNESCO a chafwyd cyfle i ddathlu'r Cymun yn eglwys Agia Kyriaki yn Paphos, a adeiladwyd ar safle Basilica Cristnogol enfawr ac sy’n cael ei ystyried fel y safle lle y cyfarfu Paul â'r llywodraethwr Rhufeinig Sergius Paulus.

Yr oedd yna un peth yr oedd arweinydd y grŵp, Dr Clare Amos, yn awyddus iawn i'w wneud, sef trefnu Cymun i ddathlu'r Gweddnewidiad yn yr eglwys Anglicanaidd uchaf ar yr ynys - Eglwys Sain Siôr yn y Goedwig - sy'n sefyll tua 6000' uwchlaw lefel y môr ym mynyddoedd Troodos, ac felly’n amhosib ei chyrraedd yn aml oherwydd yr eira. Er yr eira diweddar, roedd modd cynnal gwasanaeth rhewllyd o oer yno. Pregethodd Clare yn y gwasanaeth hwnnw a dyfynnodd yr Archesgob Michael Ramsey, a ddywedodd bod diwinydd yn cael ei amlygu i weledigaeth o’r nefoedd ac i drasiedïau dynolryw. Mae hynny'n destun cnoi cil gwych i'r rhai sy'n ystyried gweinidogaeth ordeiniedig neu leyg, ac yn grynodeb hynod graff o'r hyn y gallai unrhyw bererindod i'r Dwyrain Canol heddiw ei ddarganfod.