Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2025 Alffa i bob oed

Alffa i bob oed

Yn ddiweddar, mae Ardal Gweinidogaeth Leol Bro Aman wedi cwblhau cwrs Alffa a gynhaliwyd yn Eglwys yr Holl Saint, Rhydaman. Newyddion sy’n hwb i Ali Reeves

Bu grŵp bach ond brwd o gyfranogwyr, yn amrywio o ran oedran o 16 i 60 oed, yn cymryd rhan. Daeth y grŵp ag amrywiaeth eang o brofiadau o eglwys; roedd rhai yn dod i'r eglwys yn rheolaidd ers tro byd, ond roedd gennym hefyd rai a oedd ond yn ddiweddar wedi cael eu bedyddio ac un a oedd wedi ymbellhau o'r eglwys flynyddoedd lawer yn ôl.

Roedd rhai o'r grŵp wedi cwrdd yn yr eglwys o'r blaen ond ddim yn nabod ei gilydd yn dda, tra bod eraill yn ddieithriaid. Cafwyd rhai gemau torri’r iâ yn yr ychydig sesiynau cyntaf a helpodd pobl i ymlacio ac roedd yn hyfryd clywed ambell stori bersonol iawn yn cael ei rhannu yn ystod y cwrs, unwaith yr oedd pobl yn teimlo'n gyfforddus gyda'i gilydd.

Roedd diffyg cyfleusterau arlwyo yn golygu bod yn rhaid paratoi bwyd yn y ficerdy a'i gludo i'r eglwys bob wythnos ac mae'n debyg mai’r tatws trwy'u crwyn oedd y ffefryn ac wrth gwrs, does neb yn gwrthod cacen!

Roedd yr hwyluswyr wrth eu bodd yn gweld y grŵp yn closio yn ystod y cwrs, gan ddatblygu'r hyder i weddïo'n uchel gyda'i gilydd ac, wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen, dod yn fwy hyderus wrth fynegi sut roedd eu ffydd yn datblygu. Roedd rhai o'r sylwadau a gawsom yn cynnwys:

  • “Mae bwyd am ddim wastad yn dda!”
  • “Dwi’n teimlo bod y cwrs wedi dod â fi’n nes at Dduw”
  • “Dwi wedi bod yn dod i'r eglwys ers blynyddoedd lawer ond mae hyn yn bendant wedi dyfnhau fy ffydd a'm dealltwriaeth”
  • “Mae gen i ddau deulu nawr, fy nheulu gartref, a'm teulu eglwysig”
  • “Dwi’n gweddïo bob dydd nawr ac mae Iesu yn bendant yn rhan o mywyd i”.

Rydyn ni’n falch iawn fod tri o griw y cwrs wedi gofyn am gael eu conffyrmio yn ein gwasanaeth conffyrmasiwn Ardal Gweinidogaeth Leol ym mis Gorffennaf gyda'r Esgob Dorrien.

Er mai criw bach ddaeth ynghyd ar gyfer ein cwrs cyntaf, byddem yn bendant yn argymell Alffa fel offeryn i ddod â phobl i berthynas â Iesu ac rydyn ni’n gobeithio cynnal y cwrs bob blwyddyn o hyn ymlaen.