Hwyl ar y mastiau
Lynn Rees sy’n brolio manteision gwirfoddoli gyda’r Cadetiaid Môr
Ar ôl gwasanaethu yn ystod Rhyfel y Crimea, dychwelodd y Parch. Henry Barton i'w weinidogaeth fel Ficer Whitstable i ganfod bod nifer cynyddol o fechgyn tlawd yn amddifad yn sgil y rhyfel.
Ym 1856, i helpu'r bechgyn hyn, sefydlodd gartref i blant amddifad “a oedd yn dysgu sgiliau morwrol”. Ymhen amser sefydlwyd cartrefi plant amddifad pellach a ddaeth yn adnabyddus fel y Navy Lads' Brigade. Ym 1910 noddodd Cynghrair y Llynges (y Navy League) nifer fach o unedau ac ym 1919 mabwysiadodd yr enw Navy League Sea Cadet Corps.

Heddiw mae dros 14,000 o Gadetiaid Môr a 9,000 o wirfoddolwyr sy'n oedolion mewn 400 o unedau dan oruchwyliaeth elusen genedlaethol, y Gymdeithas Forol a’r Cadetiaid Môr, sy'n dilyn traddodiadau ac arferion y Llynges Frenhinol. Mae gan Esgobaeth Tyddewi unedau Cadetiaid Môr yn Aberystwyth, Abergwaun, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod gydag uned newydd ar droed ar gyfer Caerfyrddin cyn bo hir.
Rydw i wedi bod yn wirfoddolwr yng Nghadetiaid Môr Aberystwyth ers 2008 a chefais fy mhenodi'n Gaplan yr uned yn 2016. Mae caplaniaid yn gwneud cyfraniad pwysig ymhlith y 9000 o wirfoddolwyr sy'n oedolion fel ffrind a chynghorydd i bawb, waeth a oes ganddyn nhw ffydd ai peidio.
Mae ymwneud â'r Cadetiaid Môr yn gyfle gwych i gyrraedd pobl ifanc yn ein cymuned ac wedi ehangu cwmpas fy ngweinidogaeth yn fawr yn ogystal â darparu cyfleoedd i mi ddatblygu fy mhrofiad a dysgu sgiliau newydd.
Rydw i wedi dychwelyd yn ddiweddar o'r cwrs Parhad Caplaniaeth blynyddol yn HMS Raleigh yn Plymouth lle daeth 30 o Gaplaniaid Cadetiaid Môr at ei gilydd ar gyfer wythnos o hyfforddiant a chymdeithas.
Ar hyn o bryd, nid oes gan unedau yn Llanelli, Dinbych-y-pysgod, Doc Penfro ac Aberdaugleddau Gaplan. Maen nhw hefyd yn cynnig amrywiaeth o wahanol rolau gwirfoddol. Felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy, cysylltwch â'r Parch Lynn Rees yn lynnrees@cinw.org.uk neu ewch i dudalen y Cadetiaid Môr www.seacadets.org.